Mae 'rhedeg i had' wedi'i gofnodi yn GPC, yn yr ystyr 'run to seed'.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 Ionawr 2012 12:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bolted leeks
Ymddiheuriadau gan Bruce. Nid yw "bolted" yn yr ystyr hwn yn GyrA, ond
edrychais dan "seed", gan ddisgwyl "gone to seed", a'i gael dan "come to
seed" (ymadrodd hollol ddiarth imi). "hadu, hedeg, mynd i had" yw'r dewis.
Mae Bruce yn gyfarwydd a "hedeg" a finnau a "mynd i hedeg". Mae arna i ofn
bod "rhedeg" yn swnio fel llygru gan bobl oedd yn trio gwneud synnwyr o air
anarferol, fel yr oedd rhai o bobl Covent Garden, fel 'rwy'n deall, yn
gwerthu "sparrow grass" yn lle asparagus.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 06 January 2012 12:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bolted leeks
Wedi rhedeg faswn i'n ddweud yn bendant. Cofio un dyfarnwr peldroed tal iawn
oedd wedi ypsetio torf Bethesda Athletic ers talwm yn cael ei gymharu efo
rhiwbob wedi rhedeg! (dwi ddim yn siwr os mai hwn gafodd ei daflu i'r afon
ar ol y gem!!)
Sent from my iPhone
On 6 Ion 2012, at 12:02, Rhian Jones <[log in to unmask]> wrote:
> O'n i'n meddwl mai 'wedi hedeg' oedd o, nid 'rhedeg'.
> Rhian
>
> -----Original Message----- From: Howard Huws
> Sent: Friday, January 06, 2012 11:54 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: bolted leeks
>
> "Cennin wedi rhedeg", ddywedwn i. Ar lafar yma, mae rhywun ofnadwy o dal
"fatha riwbob di rhedag."
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.1901 / Virus Database: 2109/4725 - Release Date: 01/05/12
|