Prynhawn da Dewi,
Diolch am eich cynigion, ond rwy'n meddwl efallai dylwn i fod wedi esbonio fy hun wrth ofyn am gyfieithiad. Gêm o fath yw trolley dash, lle mae'r cystadleuydd yn cael hyn o hyn o amser i lenwi'r troli gyda chymaint o nwyddau ag sy'n bosibl o fewn yr amser (byr) hwnnw. Tebyg i Supermarket Sweep ers talwm? Ma Take a Break hefyd yn cynnal cystadleuaeth debyg. Byddai rhywbeth fel "Rhuthr Troli" yn gwneud y tro? "Gwib Troli"? Ceisio meddwl am rywbeth bachog, heb fawr o lwyddiant!
Cofion,
Meinir
|