Diolch.
Hm! syniad da! Ond yn ôl GPC mae dychrynfa'n golygu "ofn, braw,
dychryn' a dychryndod yn golygu rhywbeth tebyg. - sef y braw ei
hunan, nid y peth sy'n ei achosi.
Oes gennym ni hawl herwgipio gair fel hyn?
Siân
On 3 Hyd 2011, at 10:40, Matthew Clubb wrote:
> Tybed a fyddai'r hen eiriau 'dychryndod' neu 'ddychrynfa' yn gweithio?
> 'dychrynfa iechyd' ddim yn air cyffredin efallai, ond ma'n ddigon
> hawdd ei
> ddeall
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian
> Roberts
> Anfonwyd/Sent: 03 Hydref 2011 06:30
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: scare
>
> Bore da!
>
> "Have there been any food related health scares in the last two
> years?"
>
> Mae GyrA yn rhoi "bygythiad bom" am "bomb scare" ond dwi'm yn siŵr
> ydi
> "bygythiad i iechyd" yn gweithio.
>
> Dwi'n tueddu i gysylltu "health scare" â sylw yn y cyfryngau:
> Wikipedia: "Health scare is a campaign to scare the public into
> avoiding a
> food or chemical on the grounds that it might cause them to
> contract an
> illness or have some other negative effect on their health. Many
> such scares
> have been shown to be groundless, but in some cases it may involve
> very real
> threats to public health and safety."
>
> Os felly, dydi "bygythiad i iechyd" ddim yn gweithio. Beth am
> rywbeth fel
> "ymgyrch i godi braw am effaith rhyw fwydydd ar iechyd"? Braidd yn
> hir.
>
>
> Diolch
>
> Siân
|