Diolch yn fawr Ann a Geraint.
Dafydd
On Mon, 19 Sep 2011 18:23:05 +0000, Geraint Lewis <[log in to unmask]> wrote:
>
>Am lyfrau plant 1900 - 1991, gweler 'Llyfrau Plant Children's Books in Welsh' a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd a^'r Cyngor Llyfrau ac Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
>Yn y Rhagymadrodd ceir y camau a ddigwyddodd yn dilyn dyfyniad Ann.
>Am lyfrau cyn 1900, sonnir am brosiectau arfaethedig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
>
>
>> Date: Mon, 19 Sep 2011 18:15:52 +0100
>> From: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Llyfrau i blant yn Gymraeg
>> To: [log in to unmask]
>>
>> "Sefydlwyd Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru (the Welsh National Centre for
>> Children's Literature) yn 1979 i hyrwyddo astudiaeth ar y pwnc ac i
>> ddatblygu casgliad cenedlaethol o lyfrau Cymraeg ac Eingl-Gymreig i blant,
>> yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1974. Aethpwyd ati i
>> gasglu cop�au llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o lyfrau plant. Yn 1989,
>> trosglwyddwyd prif weithgareddau y Ganolfan, yn ymwneud � chyhoeddiadau
>> cyfredol a diweddar, i Adran y Plant, Cyngor Llyfrau Cymraeg, tra bod Adran
>> Gwybodaeth ac Astudiaethau Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a
>> Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd yn gyfrifol am weithgareddau eraill."
>>
>> Byddwn i'n meddwl, felly, mai'r Cyngor Llyfrau neu'r Llyfrgell Genedlaethol
>> fyddai'r lle i holi.
>>
>> Ann
>>
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
>> Sent: 19 September 2011 17:13
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Llyfrau i blant yn Gymraeg
>>
>> Oes rhywun yn gwybod am ffynhonnell sy'n rhestru'r llyfrau cyntaf gafodd eu
>> sgwennu i blant, yn Gymraeg, os gwelwch yn dda?
>>
>> Dafydd
>
|