Licio'r syniad o e-lyffanta!
Efallai y bydd y collnod yn diflannu yn y geiriau hyn hefyd, ar ôl i'r geiriau ennill eu plwyf, fel ebost? O edrych ar y we mae amrywiaeth mawr yn y fersiynau Saesneg hefyd, gydag ePetition, e-petition, e-Petition ac epetition, a'r un peth gyda eGovernment/e-government.
ebost heb y collnod dwi'n ei ddefnyddio rwan, ers y drafodaeth ddiwetha yma ar y pwnc!
Sioned
On 13 Oct 2011, at 14:36, Osian Rhys Jones wrote:
> Dyma fentro i dir llai saff trwy awgrymu bod y rheol yn wahanol i bethau fel e-ddysgu ac e-farchnata am y rhesymau nad ydi'r acen yn ffactor yma a hefyd am eu bo nhw'n dermau mwy amwys; mi fedar unrhyw ferfenw/enw gael ei ail fathu gyda 'e-' o'i flaen.
>
> Beth am bnawn o e-farchogaeth, rhywun? Neu e-lyffanta?!
|