Rwy wedi dod o hyd i "ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio" ac "ymbelydredd anïoneiddiol" ar y we.
Dim llawer o enghreifftiau o'r naill na'r llall.
Oes 'na un yn well na'r llall? Mae gan "anïoneiddiol" y fantais o fod yn un gair ond ydi e'n cyfleu'r ystyr yn iawn?
Yn ôl GPC mae "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb - e.e. anharddu. Ond nid dyna'r ystyr sydd yma.
Cafodd y term ei godi o'r blaen mewn trafodaeth ar "Oxidation of a fuel evolving heat, particulates, gases and non-io nizing radiation" (mae'r gair wedi'i rannu'n "non-io nizing")
Diolch
Siân
|