Dw i ddim yn siŵr y byddwn i'n derbyn diffiniad Wicipedia bod 'health scare' yn 'ymgyrch' - er, wrth gwrs, gallai'r "scare" godi o ymgyrch, ond byddwn i'n dadlau taw y dychryn cyffredinol yw'r 'scare', nid y sbardun. Yn ôl y Concise OED "n. unreasoning terror, esp. baseless general apprehension of war, invasion, epidemic, etc..."
O ran herwgpipio, mae'n siŵr na fydda angen mynd ag e o'i anfodd; fe fyddai'n gwerthfawrogi'r cyfle prin i gael tro bach mas.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 03 Hydref 2011 12:00
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: scare
Diolch.
Hm! syniad da! Ond yn ôl GPC mae dychrynfa'n golygu "ofn, braw, dychryn' a dychryndod yn golygu rhywbeth tebyg. - sef y braw ei hunan, nid y peth sy'n ei achosi.
Oes gennym ni hawl herwgipio gair fel hyn?
Siân
On 3 Hyd 2011, at 10:40, Matthew Clubb wrote:
> Tybed a fyddai'r hen eiriau 'dychryndod' neu 'ddychrynfa' yn gweithio?
> 'dychrynfa iechyd' ddim yn air cyffredin efallai, ond ma'n ddigon
> hawdd ei ddeall
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
> Anfonwyd/Sent: 03 Hydref 2011 06:30
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: scare
>
> Bore da!
>
> "Have there been any food related health scares in the last two
> years?"
>
> Mae GyrA yn rhoi "bygythiad bom" am "bomb scare" ond dwi'm yn siŵr
> ydi "bygythiad i iechyd" yn gweithio.
>
> Dwi'n tueddu i gysylltu "health scare" â sylw yn y cyfryngau:
> Wikipedia: "Health scare is a campaign to scare the public into
> avoiding a food or chemical on the grounds that it might cause them to
> contract an illness or have some other negative effect on their
> health. Many such scares have been shown to be groundless, but in some
> cases it may involve very real threats to public health and safety."
>
> Os felly, dydi "bygythiad i iechyd" ddim yn gweithio. Beth am rywbeth
> fel "ymgyrch i godi braw am effaith rhyw fwydydd ar iechyd"? Braidd yn
> hir.
>
>
> Diolch
>
> Siân
|