Ond ...
"Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o
weithwyr yn y DU yr hawl iddo fesul awr. Cael gwybod beth yw’r
cyfraddau cyfredol a ble i gael cymorth os ydych yn credu eich bod yn
cael eich talu’n is na’r gyfradd isafswm cyflog."
( http://www.direct.gov.uk/cy/Employment/Employees/TheNationalMinimumWage/DG_10027201CY
)
2011/9/12 Mary Jones <[log in to unmask]>:
> Cytuno. Mae’n debyg mai “cyflog =salary” mae rywun yn ei gael pan fydd
> cytundeb yn cael ei wneud ar gyfer swydd benodol, hynny yw, cytundeb yn
> cynnwys y ta^l a phethau fel gwyliau, pensiwn, Yswiriant Gwadol, hawliau,
> hyd y swydd, ac yn y blaen. “Ffeiriau Cyflogi” ers llawer dydd. Ac ystyr
> “pae = wages” yw’r hyn sy’n cael ei dalu i rywun sy’n dod i wneud gwaith
> penodol, fel torri pen cloddiau, carthu’r beudyau, glanhau’r ffenestri etc.
> a hynny’n rheolaidd. Does yna ddim elfen o bensiwn na thaliadau YG etc. yn
> hynny, dim ond y ta^l. Y peryg o ddefnyddio “ta^l” yw nad yw’n glir i’w
> darllenydd ai “salary” ynte “wages” a olygir, felly mae “pae” yn gallu bod
> yn ateb hwylus, a “pae” oedd yn cael ei ddefnyddio yn y ffurflenni Treth
> Incwm cynnar. (“Nos Wener pae” meddai Gwenallt yn Ar Gyfeiliorn”).
>
> Mary
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ifan Glyn Jones
> Sent: 12 September 2011 16:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Beth am 'pae' fel wages
>
> a 'chyflog' fel salary
>
>
>
> In a message dated 12/09/2011 15:54:07 GMT Daylight Time,
> [log in to unmask] writes:
>
> Ond mae’n amlwg bod ‘na ryw reswm pam mae ar yr awdur eisiau gwahaniaethu
> e.e. bod y trefniadau yswiriant neu wyliau’n wahanol. Nid yw’n *amhosibl*
> cyfieithu/egluro gwahaniaeth os yw’r gwahaniaeth mewn bod e.e. “an entail
> would allow the estate to pass to male cousins but not to female cousins”.
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 12 September 2011 13:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Cwestiwn o semanteg yn Saesneg ydio - mae'n amhosib ei gyfieithu i'r Gymraeg
> gan nad ydi'r Gymraeg yn gwahaniaethu rhwng cyflog a chyflog.
>
>
>
> Mae o fel petai rhywun yn gofyn iti gyfieithu'r cwestiwn "Eglurwch y
> gwahaniaeth rhwng cefnder a chyfnither".
>
>
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
>
> From: CATRIN ALUN
>
> To: [log in to unmask]
>
> Sent: Monday, September 12, 2011 1:08 PM
>
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Digon posib Ann - manyleb arholiad sy' gen i!
>
>
>
> Dyma un o'r canlyniadau dysgu!
>
>
>
> explain the difference between a salary and a wage
>
>
>
> ________________________________
>
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, 12 September, 2011 13:02:26
> Subject: Re: wages a salary
>
> ‘Rwy’n amau’n fawr bod y diffiniadau’n amrywio, a bod “dyna beth ‘rydym NI
> yn ei olygu wrth y termau” fydd gennych. A oes modd tynnu’r termau o’r
> adran?
>
> Mae edrych yn sydyn ar Google yn awgrymu e.e. “”cyflog fesul awr” versus
> “cyflog fesul blwyddyn”.
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
> Sent: 12 September 2011 12:52
> To: [log in to unmask]
> Subject: wages a salary
>
>
>
> Dwi'n cyfieithu darn sy'n esbonio'r gwahaniaeth rhwng 'wages and salaried
> employment'.
>
>
>
> Sut mae gwahaniaethu?! Oes 'na air heblaw 'cyflog'??
>
>
>
> Mae 'na adran gyfan ar y gwahaniaeth rhwng y ddau fath o dâl!
>
>
>
> Diolch!
|