Annwyl bawb,
Mae gennym ychydig lefydd yn dal ar gael ar gyfer y gweithdy isod. Os oe
sgennych ddiddordeb, e-bostiwch fi ac mi wna i yrru ffurflen gofrestru
atoch.
Yn gywir,
Delyth
Gweithdy Technoleg Cyfieithu
Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, mewn cydweithrediad â
Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru
23 Medi, 2011
Ystafell C2, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor.
Bydd paned a chinio yng nghyntedd Prif Adeilad y Celfyddydau.
Noddir y gweithdy gan Ganolfan Sgiliau Aber-Bangor ac felly ni chodir
tâl am y gweithdy na’r lluniaeth a ddarperir. Cyfyngir nifer y mynychwyr
i 12, felly cyntaf i’r felin gaiff le. I gofrestru, e-bostiwch Delyth
Prys ar [log in to unmask], neu ffoniwch 01248 382800.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer rheolwyr cyfieithu, cyfieithwyr
proffesiynol a darpar gyfieithwyr sydd eisiau profiad ymarferol o
ddefnyddio offer technoleg cyfieithu.
Rhaglen
10.30 Cyrraedd a choffi
11.00 – 12.30 Sesiwn y Bore
Llif gwaith y broses gyfieithu
• Rhagarweiniad: Egwyddorion llif gwaith
• Sesiwn Ymarferol: Meddalwedd llif gwaith
12.30-1.30 Cinio
1.30 – Sesiwn y Prynhawn
Cymhorthion cyfieithu electronig
• Rhagarweiniad: Egwyddorion cymhorthion electronig
• Sesiwn Ymarferol: Cof cyfieithu ac adnoddau integredig eraill
3.00- 3.30 Paned ac adborth
|