Oni bod y cyd-destyn yn hynod dechnegol wela i ddim rheswm dros beidio
defnyddio "oedi".
Mewn cyswllt technegol mi fyddai'r rhaid gwahaniaethu. Yn ol Rhodd Mam,
mae dau fath o oedi, ond nid yw'r Saesneg hyd yn oed yn meddu ar air
cyfleus am y math arall. I'r gwrthwyneb, mae ganddon nhw air am ei
ddiffyg. Mae "latency" yn mesur oed neges neu ateb; dyma'r oedi cyn
cychwyn derbyn cyfres o negeseuon neu o ddata. Mae "throughput" (neu
"bandwidth" neu debyg) yn fesur o ddiffyg oedi am y gweddill a ddaw wedyn.
I fynd ag unawdydd cloff i'r Wyl Gerdd Dant, byddai tacsi yn osgoi oedi
(latency). I fynd a Chor Godre'r Aran fyddai un tacsi dda i ddim; heb
siarabang fyddai hi'n Eisteddfod eto cyn i reng y baswyr gyrraedd,
ond nid latency mo'r math yna o oedi.
Ond at ddefnydd pob dydd, oedi yw latency.
|