> Pwynt diddorol - ond beth, felly, yw ergyd 'llyfr o gân'?
Dwnim wir. Oni bo'r ergyd i dalcen yr holwr. Llyfr emynol?
> Ydy 'siec' yn ansoddeiriol, o bosibl, yn y cyd-destun penodol hwnnw?
Dwn i ddim chwaith, ond mae "llyfr siec" wedi'n nharo i'n chwerthinllyd
o chwithig erioed. Yr yn modd "blwch gêr"; druan o'r gêr bach unig
dibwrpas. Er nad oes gen i luosog crandiach na gêrs, ac mae gêrflwch
yn rhy Risiart a bechingalw: tase gen o gar, dichon mai bocs gêrs fyddai
ganddo.
|