Yn ddiweddar cafodd aelod o'm teulu lythyr gan ysgolhaig disglair ym
maes y Gymraeg, yn ei wahodd i 'fynychu cyfarfod'. Tybed felly ydi cylch
defnydd y gair 'mynychu' wedi lledu erbyn hyn ac y dylem ni dderbyn
hynny? Ond gan fod 'mynych' yn air cyfarwydd a'i ystyr yn hysbys mae'n
taro'n chwithig. Bydda i fel arfer yn dod allan ohoni trwy hepgor y gair
yn gyfan gwbl e.e. 'invite to attend a meeting' - 'gwahodd i gyfarfod'.
Dewi Williams wrote:
> Helo Tim,
>
>
> "mynychu" mynd i rywle'n fynych, to frequent a place, "mynychu'r dafarn
> neu'r capel" dangos arferiad rheolaidd.
> "mynychu cyfarfodydd" os bydd rhywun yn gwneud hyn yn aml
> "bod yn bresennol mewn cyfarfod" - efallai'r ymweliad cyntaf, neu'r unig
> adeg yn y cyfarfod hwnnw
>
> Ond dw i'n gweld tueddiad i ddefnyddio "mynychu" ar gyfer "to attend"
> boed hyny'n digwydd yn fynych ai peidio.
>
> Dewi
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|