"Sefydlwyd Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru (the Welsh National Centre for
Children's Literature) yn 1979 i hyrwyddo astudiaeth ar y pwnc ac i
ddatblygu casgliad cenedlaethol o lyfrau Cymraeg ac Eingl-Gymreig i blant,
yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1974. Aethpwyd ati i
gasglu copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o lyfrau plant. Yn 1989,
trosglwyddwyd prif weithgareddau y Ganolfan, yn ymwneud â chyhoeddiadau
cyfredol a diweddar, i Adran y Plant, Cyngor Llyfrau Cymraeg, tra bod Adran
Gwybodaeth ac Astudiaethau Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd yn gyfrifol am weithgareddau eraill."
Byddwn i'n meddwl, felly, mai'r Cyngor Llyfrau neu'r Llyfrgell Genedlaethol
fyddai'r lle i holi.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 19 September 2011 17:13
To: [log in to unmask]
Subject: Llyfrau i blant yn Gymraeg
Oes rhywun yn gwybod am ffynhonnell sy'n rhestru'r llyfrau cyntaf gafodd eu
sgwennu i blant, yn Gymraeg, os gwelwch yn dda?
Dafydd
|