Byddaf yn aml yn gorfod meddwl ddwywaith am dreigliadau meddal fel hyn.
Yn y drafft cyntaf mi fyddwn yn tueddu rhoi 'moeseg clinigol' (er enghraifft) ond wrth wirio'r gwaith ac wedi edrych yn Cysgair i weld a yw 'moeseg' yn air gwrywaidd neu fenywaidd, bydd treiglo'n cymryd lle!
Yna daw cyfnod o amheuaeth...ydi o'n swnio'n iawn?...ac yna edrych prun sydd yn digwydd yn amlach ar Google!
Rwbath i'w neud hefo dwad o'r Gogladd am wn i ydi hyn?
Dafydd
On Thu, 15 Sep 2011 17:21:59 +0100, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
>Mae�r gwaith wedi mynd, a threiglo wnes i yn y pen draw.
>
>
>
>Diolch
>
>
>
>Rhian
>
>
>
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
>Sent: 15 September 2011 16:47
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: clinical ethics
>
>
>
>Treiglo fyddwn i am fod 'moeseg' yn enw benywaidd. 'Moeseg gymhwysol' yw
>'applied ethics' yn ochr Cymraeg-Saesneg y Termiadur.
>
>
>
>Wela i ddim rheswm dros beidio treiglo.
>
>
>
>Berwyn
>
>
>
>2011/9/15 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>
>Pnawn Da
>
>
>
>Dwi�n dechrau drysu fy hun yn fan hyn. Fedr rywun ddweud wrthai p�un sy�n
>gywir:
>
>
>
>Moeseg glinigol ynteu moeseg clinigol?
>
>
>
>Dwi ddim yn credu mai ansoddeiriol yw �clinigol� yma � moeseg yn y maes
>clinigol sydd dan sylw hyd y gwelaf.
>
>
>
>Diolch yn fawr
>
>
>
>Rhian
>
>
>
>Rhian Huws
>
>Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
>
>47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
>
>E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask]
>
>Ff�n/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492
>
>www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk
>
>
>
>
>
>
|