"Beth roddodd y Rhufeiniaid i ni erioed?"
"Breichiau!"
"Pysgod!"
"Gwin!"
"Pontydd!"
"Caws!"
"Llongau!"
"Canhwyllau ..."
Quod scripsit
Timotheus
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 13 September 2011 11:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: wages a salary
Da iawn rwan!
O'n i'n hoffi meddwl am y Cymry cyn i'r Rhufeiniaid ddod, heb sylwi ar y peth hir 'na rhwng eu llaw a'u hysgwydd, ac felly heb air amdano. Wedyn y Rhufeiniaid yn dod ac yn tynnu sylw at y "breichiau" newydd modern yma. Y Cymry'n gwneud "double-take" enfawr wrth weld rhein am y tro cyntaf.
Ger
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 13, 2011 10:32 AM
Subject: ATB/RE: wages a salary
Wel, dwi ddim yn siŵr am hyn fy hunan. Nid y Gymraeg sy ddim yn
gwahaniaethu, ond ni.
Pan fydd dyfais newydd fel 'computer' yn dod i'r amlwg, mae iaith fyw yn
mynd i greu gair, bathu gair, benthyg gair neu atgyfodi hen air er mwyn ateb
yr angen.
Pan fydd gwybodaeth newydd yn dod i'r amlwg mewn maes technegol, a honno'n
dangos bod hen derm cyfarwydd fel 'clefyd siwgr' yn derm camarweiniol a
ddylai gael ei osgoi wrth drafod ar lefel dechnegol, mae iaith fyw yn gallu
ymdopi - a benthyg y ffurf 'diabetes'.
Yn yr un modd, os daw'n amlwg bod yna wahaniaeth rhwng 'wages' a 'salary'
(hyd yn oed mewn maes technegol neu arbenigol yn unig), byddwn i'n meddwl ei
bod yn beth cadarnhaol ac iach i'r Gymraeg newid.
Cyn i'r Rhufeiniaid ddod yma, doedden ni ddim yn gwahaniaethu rhwng 'llaw' a
'braich' neu rhwng 'glas' a 'gwyrdd' - efallai fod yna rywun bryd hynny yn
dweud nad oedd y Gymraeg yn gwahaniaethu a bod dim pwynt trio'i gorfodi i
wneud!
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Lovgreen
Sent: 13 Medi 2011 09:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: wages a salary
Yn hollol, dyna'r pwynt - dydi'r Gymraeg ddim yn gwahaniaethu a does na ddim
pwynt i ni drio'i gorfodi i wneud!
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, September 12, 2011 9:08 PM
Subject: Re: wages a salary
Ond ...
"Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o
weithwyr yn y DU yr hawl iddo fesul awr. Cael gwybod beth yw r
cyfraddau cyfredol a ble i gael cymorth os ydych yn credu eich bod yn
cael eich talu n is na r gyfradd isafswm cyflog."
(
http://www.direct.gov.uk/cy/Employment/Employees/TheNationalMinimumWage/DG_10027201CY
)
2011/9/12 Mary Jones <[log in to unmask]>:
> Cytuno. Mae n debyg mai cyflog =salary mae rywun yn ei gael pan fydd
> cytundeb yn cael ei wneud ar gyfer swydd benodol, hynny yw, cytundeb yn
> cynnwys y ta^l a phethau fel gwyliau, pensiwn, Yswiriant Gwadol, hawliau,
> hyd y swydd, ac yn y blaen. Ffeiriau Cyflogi ers llawer dydd. Ac ystyr
> pae = wages yw r hyn sy n cael ei dalu i rywun sy n dod i wneud gwaith
> penodol, fel torri pen cloddiau, carthu r beudyau, glanhau r ffenestri
> etc.
> a hynny n rheolaidd. Does yna ddim elfen o bensiwn na thaliadau YG etc. yn
> hynny, dim ond y ta^l. Y peryg o ddefnyddio ta^l yw nad yw n glir i w
> darllenydd ai salary ynte wages a olygir, felly mae pae yn gallu bod
> yn ateb hwylus, a pae oedd yn cael ei ddefnyddio yn y ffurflenni Treth
> Incwm cynnar. ( Nos Wener pae meddai Gwenallt yn Ar Gyfeiliorn ).
>
> Mary
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ifan Glyn Jones
> Sent: 12 September 2011 16:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Beth am 'pae' fel wages
>
> a 'chyflog' fel salary
>
>
>
> In a message dated 12/09/2011 15:54:07 GMT Daylight Time,
> [log in to unmask] writes:
>
> Ond mae n amlwg bod na ryw reswm pam mae ar yr awdur eisiau gwahaniaethu
> e.e. bod y trefniadau yswiriant neu wyliau n wahanol. Nid yw n *amhosibl*
> cyfieithu/egluro gwahaniaeth os yw r gwahaniaeth mewn bod e.e. an entail
> would allow the estate to pass to male cousins but not to female cousins .
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 12 September 2011 13:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Cwestiwn o semanteg yn Saesneg ydio - mae'n amhosib ei gyfieithu i'r
> Gymraeg
> gan nad ydi'r Gymraeg yn gwahaniaethu rhwng cyflog a chyflog.
>
>
>
> Mae o fel petai rhywun yn gofyn iti gyfieithu'r cwestiwn "Eglurwch y
> gwahaniaeth rhwng cefnder a chyfnither".
>
>
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
>
> From: CATRIN ALUN
>
> To: [log in to unmask]
>
> Sent: Monday, September 12, 2011 1:08 PM
>
> Subject: Re: wages a salary
>
>
>
> Digon posib Ann - manyleb arholiad sy' gen i!
>
>
>
> Dyma un o'r canlyniadau dysgu!
>
>
>
> explain the difference between a salary and a wage
>
>
>
> ________________________________
>
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, 12 September, 2011 13:02:26
> Subject: Re: wages a salary
>
> Rwy n amau n fawr bod y diffiniadau n amrywio, a bod dyna beth rydym NI
> yn ei olygu wrth y termau fydd gennych. A oes modd tynnu r termau o r
> adran?
>
> Mae edrych yn sydyn ar Google yn awgrymu e.e. cyflog fesul awr versus
> cyflog fesul blwyddyn .
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
> Sent: 12 September 2011 12:52
> To: [log in to unmask]
> Subject: wages a salary
>
>
>
> Dwi'n cyfieithu darn sy'n esbonio'r gwahaniaeth rhwng 'wages and salaried
> employment'.
>
>
>
> Sut mae gwahaniaethu?! Oes 'na air heblaw 'cyflog'??
>
>
>
> Mae 'na adran gyfan ar y gwahaniaeth rhwng y ddau fath o d l!
>
>
>
> Diolch!
|