Tueddu i gytuno Geraint - alla'i ddim meddwl am enghraifft lle mae berf yn
treiglo chwaith ond wedi dweud hynny, mae berfenwau'n treiglo ar ôl 'rhag'
(sy'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg e.e. rhagflaenu, rhagweld. Ai
defnyddio 'cyn' o flaen 'berf' fel hyn efo cysylltair sy'n od yn ei hanfod?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 22 Medi 2011 10:34
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: pre-registration nursing
Rwyt ti newydd enwi eithriad dy hun - 'cyn-geni'.
Ga'i awgrymu mai'r rheswm am hyn ydi mai berf ydio.
Oes yna unrhyw enghraifft o ferf yn treiglo'n feddal ar ol 'cyn-' ?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 22, 2011 10:07 AM
Subject: Re: pre-registration nursing
I ti, falle, ond dyw'r geiriaduron a'r gramadegau awdurdodol ddim yn
nodi bod unrhyw eithriad i'r rheol bod treiglad meddal ar o^l 'cyn-'.
Berwyn
2011/9/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Iawn efo ansoddeiriau, ond i fi dydi 'cyn' ddim yn treiglo berfau fel
> cofrestru (a does dim angen cysylltnod chwaith gyda berf). Mae "cyn geni"
> yn
> enghraifft o hyn - byddai'r ansoddair yn treiglo - 'cyn-enedigol'.
>
> ----- Original Message -----
> From: Berwyn Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, September 22, 2011 8:48 AM
> Subject: Re: pre-registration nursing
> Mae 'cyn-' fel rhagddodiad yn treiglo - gweler o dan 'pre-' yng Ngeiriadur
> yr Academi, td. 1064: pre- (prefix), rhag- + soft mutation, cyn- + soft
> mutation, occ. blaen- + soft mutation.
> Y ffurfiau cywir, felly, yw 'cyn-Gambraidd, cyn-Geltaidd, cyn-ganseraidd,
> cyn-gofrestru (ond does dim treiglad yn 'cyn-geni').
> Gramadeg y Gymraeg, td 688-9 a nodyn [b] ar td 689 yn arbennig:
> Pan fo'n golygu 'blaenorol' neu 'gyda' ... bydd 'cyn-' yn sbarduno'r
> treiglad meddal; y treiglad trwynol a geir ar o^l 'cyn-' cryfhaol.
> Berwyn
>
> 2011/9/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>
>> Dwi ddim yn deall pam y byddai neb yn treiglo fama - nyrsio cyn cofrestru
>> ydio siwr iawn.
>>
>> Dydi cyn ddim yn achosi treiglad yn y cyd-destun yma, nachdi?
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Berwyn Jones
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Wednesday, September 21, 2011 4:13 PM
>> Subject: Re: pre-registration nursing
>> 'cyn-gofrestru' yw'r ffurf yng Ngeiriadur Bydwragedd Ballière (td. 222).
>> Berwyn
>>
>> 2011/9/21 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>>>
>>> P’nawn da bawb
>>>
>>>
>>>
>>> Oes term cydnabyddedig ar gyfer yr uchod – methu dod o hyd i ddim ar
>>> Term
>>> Cymru ac am ryw reswm dyw’r Termiadur Ar-lein ddim yn gweithio.
>>>
>>>
>>>
>>> Wedi gwglo ac mae enghreifftiau o ‘cyn-cofrestru’, ‘cyn-gofrestru’ a
>>> ‘cyn
>>> cofrestru’...
>>>
>>>
>>>
>>> Yn ddiolchgar am bob cymorth
>>>
>>>
>>>
>>> Rhian
>>>
>>>
>
>
|