Annwyl gylch,
Mae cyfle eto eleni i ennill un o 5 ysgoloriaeth i'r cwrs MA cyfieithu
ym Mhrifysgol Bangor, yn cael eu noddi gan gwmnïau yn yr Ardal
Cydgyfeiriant.
Rwy'n rhoi manylion pellach isod, - cysylltwch â mi os oes gennych chi
ddiddordeb.
Delyth
Ysgoloriaethau MA mewn Astudiaethau Cyfieithu
Prifysgol Bangor
Cynigir 5 ysgoloriaeth ATM (Mynediad at Radd Meistr) i astudio ar gyfer
MA mewn Astudiaethau Cyfieithu dan raglen cydgyfeiriant yr Undeb
Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol
Bangor. Noddir pob myfyriwr gan gwmni o'r ardal cydgyfeiriant, a bydd y
myfyriwr yn gweithio gyda'i gwmni dynodedig ar broject ymchwil
perthnasol iddynt.
Beth sy'n cael ei gynnig i'r myfyriwr?
• Bwrsari blwyddyn i dalu am ffioedd a chostau byw
• Cefnogaeth academaidd a diwydiannol i ddyfnhau gwybodaeth a datblygu
sgiliau newydd
Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?
• Graddedigion gyda gradd anrhydedd dda mewn Cymraeg neu Iaith Fodern
neu gyffelyb
• Rhaid i ymgeiswyr gael cyfeiriad yn yr ardal cydgyfeiriant (gogledd a
gorllewin Cymru a'r Cymoedd) i fod yn gymwys
Am ragor o fanylion cysylltwch â Delyth Prys: [log in to unmask] (01248
382800) neu Helena Miguélez-Carballeira: [log in to unmask]
(01248 382041).
|