Hmm, ie, mae nhw'n defnyddio 'outcomes' fel llawfer am 'desired outcomes' neu 'target outcomes'.
Dwi'n meddwl y byddai 'canlyniadau' yn dderbyniol (fel llawfer am 'canlyniadau a fwriedir/ddymunir').
Mae na rywbeth ychydig yn debyg yn y drydedd sleid yn y fan hyn: www.nliah.com/portal/Uploads/Resources/WHFdoKTgk.ppt
Dafydd
On Mon, 22 Aug 2011 09:30:36 +0100, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>Diolch, bawb.
>
>Mae ystyr "outcome" yn amrywio dipyn bach yn y darn.
>
>Weithiau, mae'n swnio fel "canlyniadau a ddymunir"
>
>1) Outcomes: This is what you hope will happen if you get the correct
>help and support.
>2) The care plan needs to say how the person will achieve their outcomes
>ond, weithiau, dim ond "canlyniadau"
>3) ... a care plan that focuses on the outcomes that the person wants
>4) ... if the person is achieving the outcomes written in their care
>plan.
>
>Diolch
>
>Siân
>
>
>On 22 Awst 2011, at 00:43, Dafydd Lewis wrote:
>
>> Onid 'desired (neu desirable) outcomes' fyddai 'canlyniadau
>> dymunol' - tybed a fyddai 'canlyniadau' ar ei ben ei hun yn
>> ddigonol os oes angen osgoi 'deilliant' a defnyddio term syml a
>> dealladwy?
>>
>> Ym maes meddygaeth 'outcomes' yw canlyniadau sy'n deillio o
>> ymarferion clinigol mewn poblogaeth - yn Gymraeg nid yw
>> 'canlyniadau' yn bell o ystyr 'outcomes', dwi'n meddwl.
>>
>> Dafydd
>>
>>
>>
>> On Sun, 21 Aug 2011 12:17:25 +0100, Sian Roberts
>> <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>> Diolch Eurwyn - wnes i ddim meddwl am "deilliannau" ac fe wnaf i ei
>>> gadw mewn cof i'w ddefnyddio eto mewn dogfennau technegol.
>>>
>>> Ond rwy wedi cael cyfarwyddiadau arbennig i ddweud bod y ddogfen hon
>>> i fod yn "syml a darllenadwy" - mewn "iaith glir a hawdd ei deall".
>>> Felly gwell osgoi "deilliannau" am y tro, dwi'n meddwl.
>>>
>>> A diolch, Megan am gadarnhau beth roeddwn i'n ei feddwl.
>>>
>>> Cofion
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>> On 21 Awst 2011, at 12:05, megan tomos wrote:
>>>
>>>> Gwir o bosib. Ond onid cylch cyfyng o weinyddwyr a chyfieithwyr
>>>> sy'n gartrefol yn defnyddio termau o'r fath? Defnyddio iaith
>>>> naturiol bob dydd y siaradwr Cymraeg yw'r nod yn gyntaf gan lwyddo
>>>> i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
>>>>
>>>> Megan
>>>>
>>>> --- On Sat, 20/8/11, Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>>>
>>>> From: Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
>>>> Subject: Outcomes
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Date: Saturday, 20 August, 2011, 21:39
>>>>
>>>>
>>>> Mae 'Deilliant' / 'Deilliannau' wedi ennill eu plwyf yn gyfforddus
>>>> bellach - yn enwedig ym meysydd addysg / hyfforddiant ac iechyd /
>>>> gofal; yn ogystal â nifer o'r meysydd (seicoleg seciatreg,
>>>> ffisiotherapi, ac ati) sy'n gorgyffwrdd y ddau faes addysg ac
>>>> iechyd. Ond ddim yn unig yn y meysydd uchod ychwaith - mae defnydd
>>>> lled eang i DEILLIANT erbyn hyn, mewn nifer o gyd-destunau gwahanol.
>>>>
>>>> Eurwyn
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
>>>> Of Eleri James
>>>> Sent: 20 August 2011 19:56
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: outcomes
>>>>
>>>> Beth am "canlyniadau i'w dymuno"? Rwyn cymryd mai'r bwriad yw cadw
>>>> at y gair "canlyniadau" wrth drafod y "canlyniadau go iawn" ar ben
>>>> draw'r daith. Os nag oes angen cadw at ddefnyddio un gair am
>>>> "outcome" drwyddi draw, byddai modd defnyddio "gobeithion" ar y
>>>> dechrau a "canlyniadau"/"llwyddiannau" ar y diwedd? Neu beth am
>>>> ddefnyddio rhyw ymadrodd yn cynnwys "pen draw"?
>>>>
>>>> Eleri James
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> --- On Sat, 20/8/11, Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>>> wrote:
>>>>
>>>> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>>> Subject: outcomes
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Date: Saturday, 20 August, 2011, 17:39
>>>>
>>>> Ydi "outcomes" yn gallu golygu rhywbeth fel "canlyniadau dymunol"?
>>>>
>>>> Outcomes: This is what you hope will happen if you get the correct
>>>> help and support.
>>>>
>>>> Gwahanol i "result'.
>>>>
>>>> Diolch
>>>>
>>>> Si창n
>>>
>>>
>
>
|