Ond mae 'bod yn berson' yn sicr yn awgrymu bod yn ficar!
----- Original Message -----
From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 10, 2011 3:56 PM
Subject: Re: Personhood
Ond a yw 'Personhood' ru'n peth â 'Selfhood'? Does gen i ddim syniad, rhaid
i mi fod yn onest. Fe wnes i hanner meddwl defnyddio 'bod yn berson' gan mod
i wedi gweld 'bod yn rhiant' am 'parenthood' yn rhywle (dwi'n gallu dychmygu
Ann yn sgrechian arnai rwan!).
Ond o ddifrif, dwi'n cytuno'n llwyr efo chi ynghylch gorddefnyddio'r gair
'person', ond os oes unrhyw enghraifft lle y gallech chi gyfiawnhau gwneud
hynny, mi faswn ni'n dweud mai dyma hi!
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 10 August 2011 15:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
Oni fyddai hynny'n ymwneud a thri person y Drindod?
Gwelaf fod "selfhood" yn GyrA, ac mai "hunan, hunaniaeth" yw'r cynnig.
Gwn fod Bruce yn *casau* gorddefnydd y gair "person", gan ddweud mai tri
defnydd yn unig y byddai fo'n eu cymeradwyo, sef:
i) wrth drafod y Drindod, person Crist ayb
ii) wrth drafod gramadeg e.e. yr ail berson lluosog
iii) fel gair anffurfiol ar gyfer ficer.
Yn wir, mae gorddefnydd o'r gair, a hynny, 'rwy'n amau, am ei fod yn air y
gall dysgwyr ei ddefnyddio heb orfod dysgu rhywbeth newydd(fel mae "partner"
yn disodli "cymar"). Gwelais heddiw rywbeth yn Nhestunau'r Eisteddfod y
flwyddyn nesaf yn son am "unrhyw berson" - beth sy'n bod ar "unrhyw un"?
Nid yw hyn yn berthnasol (heblaw'r frawddeg gyntaf), nac yn gymorth ichi,
ond mae rhaid imi gael rhefru ychydig.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 10 August 2011 15:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
Personoldeb? Mae'r term personoldeb yn cael ei defynyddio ym maes
diwinyddiaeth.
On 10/08/2011, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
> Unrhyw syniadau os gwelwch yn dda?
>
> Dyma'r frawddeg erchyll:
>
> The term 'Personhood' arises from philosophy of dementia care to offer an
> account of self, as something not maintained solely by cognitive ability,
> but instead something that we partly construct socially through
> relationships with people and things.
>
>
>
> Gan ddiolch ymlaen llaw am unrhyw lygedyn o oleuni.
>
>
>
> Rhian
>
>
|