... neu "tarten afal Ffrengig"?
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Lloyd
Wallace
Sent: 25 July 2011 12:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin
Dw i'n cytuno'n llwyr Matthew. Ond 'stwnsh corn-biff' a gynigir yn GPC am
corned beef hash, felly 'stwnsh ... ' ddylai hash browns fod ma'n debyg, ond
ma 'stwnsh tatws' yn awgrymu tatws wedi'u stwnshio a dim mwy. Beth am
'stwnsh ffrei'??
Ac a fydde fo'n dderbyniol i mi roi tarten Tatin felly?
Mi fydd y Saesneg ar gael ochr yn ochr yn yr achos yma.
Diolch am eich cymorth.
Mi arhosa i tan 1.00 ar gyfer eich barn!
Gwenda
On Mon, 25 Jul 2011 11:32:00 +0100 , Matthew Clubb <[log in to unmask]> wrote:
>Mae i'w weld yn drueni peidio â chynnig rhywbeth Cymraeg - 'teishenni
>tatws', 'patis tatws', hyd yn oed 'hash(au) tato'.
>
>O safbwynt ymarferol, rwy'n bwrw taw bwydlenni dwyieithog fydd y rhain -
>hynny yw, os bydd y darllenydd Cymraeg yn drysu'n llwyr o weld term
>anghyfarwydd, fe fydd y llygad yn mynd i'r Saesneg ... "A, dyna beth yw
>'hash brown' yn Gymraeg felly"
>
>O safbwynt 'gwleidyddiaeth' iaith, hynny yw statws a pharhad yr iaith, onid
>yw hi'n bwysig mynd ati - lle bynnag y mae hi'n bosib - i fathu geiriau
>Cymraeg newydd neu gymathu geiriau o ieithoedd eraill i orgraff a morffoleg
>y Gymraeg?
>
>
>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda Lloyd
>Wallace
>Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 10:17
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>
>Yn cytuno efo ti Sian. Felly, cadw at y Saesneg wna i ar gyfer y ddau derm,
>oni bai fod yna awgrymiadau gwell yn cyrraedd cyn 12.00 heddiw!
>
>Diolch yn fawr i bawb am eu cynigion.
>
>Gwenda
>
>On Mon, 25 Jul 2011 09:38:39 +0100 , Sian Roberts
><[log in to unmask]> wrote:
>>Ydi 'teisen gri datws' yn awgrymu bod 'na gyrens ynddi hi?!
>>Hefyd, yn ôl y rysetiau rwy wedi'u gweld ar y we, cael eu ffrio mae
>>hash browns.
>>A beth am bobol y de?
>>
>>Yn ôl a wela i hefyd, mae "patis tatws" yn tueddu i gael eu gwneud o
>>sbarion tatws wedi'u stwnsho a chynhwysion eraill fel winwns, wyau,
>>caws etc
>>
>>Wedi dweud hynny, does gen i ddim awgrym gwell!
>>
>>Siân
>>
>>
>>On 25 Gorff 2011, at 09:03, Meinir Pierce Jones wrote:
>>
>>> Mae 'teisen gri datws' yn ddisgrifiad iawn o rywbeth fel hyn ac yn
>>> swnio'n Gymreig.
>>>
>>>
>>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett"
>>> <[log in to unmask]>
>>> To: <[log in to unmask]>
>>> Sent: Saturday, July 23, 2011 12:46 PM
>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>
>>>
>>>> Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond
>>>> mae'n ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r
>>>> enw llawn wedi'r cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth
>>>> a ro"sti, ond bod un rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg
>>>> iawn mewn gwledydd eraill, ond yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw.
>>>> dan Wikipedia "potato
>>>> pancakes": See
>>>> Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond
>>>> oni fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael
>>>> "patis tatis"
>>>> neu "patws tatws"!).
>>>>
>>>> Yn mwydro eto,
>>>>
>>>> Ann
>>>>
>>>>
>>>> -----Original Message-----
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>> Sent: 23 July 2011 08:09
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>>
>>>> Diolch Anna - dw i'n cytuno.
>>>>
>>>> Gwenda
>>>>
>>>> On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd
>>>> <[log in to unmask]>
>>>> wrote:
>>>>> Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i ni i
>>>>> gyd, lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod na le
>>>>> dros adael hash browns hefyd.
>>>>>
>>>>> Anna
>>>>>
>>>>> 2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
>>>>>
>>>>>> Ia, bwydlen!
>>>>>>
>>>>>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn
>>>>>> adael
>>>> tarte
>>>>>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten Tatin.
>>>>>>
>>>>>> Diolch yn fawr.
>>>>>>
>>>>>> Gwenda
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> --
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>>
>>>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>>>>
>>>>>> Troed-y-rhiw
>>>>>>
>>>>>> Cefn-llwyd
>>>>>>
>>>>>> Aberystwyth
>>>>>>
>>>>>> Ceredigion
>>>>>>
>>>>>> Cymru/Wales
>>>>>>
>>>>>> SY23 3HX
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> --
>>>>
>>>>
>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>> Troed-y-rhiw
>>>> Cefn-llwyd
>>>> Aberystwyth
>>>> Ceredigion
>>>> Cymru/Wales
>>>> SY23 3HX
>>>>
>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>
>
>
>--
>
>
>Gwenda Lloyd Wallace
>Cyfieithydd/Translator
>Troed-y-rhiw
>Cefn-llwyd
>Aberystwyth
>Ceredigion
>Cymru/Wales
>SY23 3HX
>
>Ffon/Tel: 01970 880817
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|