Mae'n anodd gyda bwydydd.
Mae'r rhan fwya o enwau amlwg eisoes yn cael eu defnyddio am rywbeth
gwahanol e.e. teisennau tatws a patis tatws.
Byddai "hash tato/tatws" yn swnio'n o lew ond dw i ddim yn siwr am y
lluosog.
Rwy'n gweld mai "smwddi" mae TermCymru'n ei gynnig am "smoothie" er
bod cant a mil o enwau Cymraeg bachog wedi'u bathu a dydi
"ysgytlaeth" byth wedi ennill ei blwyf, druan.
Siân
On 25 Gorff 2011, at 11:32, Matthew Clubb wrote:
> Mae i'w weld yn drueni peidio â chynnig rhywbeth Cymraeg - 'teishenni
> tatws', 'patis tatws', hyd yn oed 'hash(au) tato'.
>
> O safbwynt ymarferol, rwy'n bwrw taw bwydlenni dwyieithog fydd y
> rhain -
> hynny yw, os bydd y darllenydd Cymraeg yn drysu'n llwyr o weld term
> anghyfarwydd, fe fydd y llygad yn mynd i'r Saesneg ... "A, dyna
> beth yw
> 'hash brown' yn Gymraeg felly"
>
> O safbwynt 'gwleidyddiaeth' iaith, hynny yw statws a pharhad yr
> iaith, onid
> yw hi'n bwysig mynd ati - lle bynnag y mae hi'n bosib - i fathu
> geiriau
> Cymraeg newydd neu gymathu geiriau o ieithoedd eraill i orgraff a
> morffoleg
> y Gymraeg?
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
> Gwenda Lloyd
> Wallace
> Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 10:17
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>
> Yn cytuno efo ti Sian. Felly, cadw at y Saesneg wna i ar gyfer y
> ddau derm,
> oni bai fod yna awgrymiadau gwell yn cyrraedd cyn 12.00 heddiw!
>
> Diolch yn fawr i bawb am eu cynigion.
>
> Gwenda
>
> On Mon, 25 Jul 2011 09:38:39 +0100 , Sian Roberts
> <[log in to unmask]> wrote:
>> Ydi 'teisen gri datws' yn awgrymu bod 'na gyrens ynddi hi?!
>> Hefyd, yn ôl y rysetiau rwy wedi'u gweld ar y we, cael eu ffrio mae
>> hash browns.
>> A beth am bobol y de?
>>
>> Yn ôl a wela i hefyd, mae "patis tatws" yn tueddu i gael eu gwneud o
>> sbarion tatws wedi'u stwnsho a chynhwysion eraill fel winwns, wyau,
>> caws etc
>>
>> Wedi dweud hynny, does gen i ddim awgrym gwell!
>>
>> Siân
>>
>>
>> On 25 Gorff 2011, at 09:03, Meinir Pierce Jones wrote:
>>
>>> Mae 'teisen gri datws' yn ddisgrifiad iawn o rywbeth fel hyn ac yn
>>> swnio'n Gymreig.
>>>
>>>
>>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett"
>>> <[log in to unmask]>
>>> To: <[log in to unmask]>
>>> Sent: Saturday, July 23, 2011 12:46 PM
>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>
>>>
>>>> Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond
>>>> mae'n ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r
>>>> enw llawn wedi'r cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth
>>>> a ro"sti, ond bod un rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg
>>>> iawn mewn gwledydd eraill, ond yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw.
>>>> dan Wikipedia "potato
>>>> pancakes": See
>>>> Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond
>>>> oni fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael
>>>> "patis tatis"
>>>> neu "patws tatws"!).
>>>>
>>>> Yn mwydro eto,
>>>>
>>>> Ann
>>>>
>>>>
>>>> -----Original Message-----
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
>>>> Behalf Of
>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>> Sent: 23 July 2011 08:09
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>>
>>>> Diolch Anna - dw i'n cytuno.
>>>>
>>>> Gwenda
>>>>
>>>> On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd
>>>> <[log in to unmask]>
>>>> wrote:
>>>>> Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i
>>>>> ni i
>>>>> gyd, lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod
>>>>> na le
>>>>> dros adael hash browns hefyd.
>>>>>
>>>>> Anna
>>>>>
>>>>> 2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
>>>>>
>>>>>> Ia, bwydlen!
>>>>>>
>>>>>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn
>>>>>> adael
>>>> tarte
>>>>>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten
>>>>>> Tatin.
>>>>>>
>>>>>> Diolch yn fawr.
>>>>>>
>>>>>> Gwenda
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> --
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>>
>>>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>>>>
>>>>>> Troed-y-rhiw
>>>>>>
>>>>>> Cefn-llwyd
>>>>>>
>>>>>> Aberystwyth
>>>>>>
>>>>>> Ceredigion
>>>>>>
>>>>>> Cymru/Wales
>>>>>>
>>>>>> SY23 3HX
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> --
>>>>
>>>>
>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>> Troed-y-rhiw
>>>> Cefn-llwyd
>>>> Aberystwyth
>>>> Ceredigion
>>>> Cymru/Wales
>>>> SY23 3HX
>>>>
>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>
>
>
> --
>
>
> Gwenda Lloyd Wallace
> Cyfieithydd/Translator
> Troed-y-rhiw
> Cefn-llwyd
> Aberystwyth
> Ceredigion
> Cymru/Wales
> SY23 3HX
>
> Ffon/Tel: 01970 880817
|