David Bullock wrote:
> Cais gan un o'r ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd yw hwn.
>
> Ysgol cyfrwng Saesneg yw hi, a'r plant yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ieithyddol a diwylliannol.
>
> Y neges yw bod maths yn perthyn i bawb; bydd adran yn llawlyfrau'r plant yn dweud "We are a numbernation"; a bydd y pennawd yn cael ei ddefnyddio i amlygu maths fel thema drwy'r ysgol i gyd.
>
> Ond mae'r ysgol yn gweithio hefyd i ledaenu'r Gymraeg ar draws yr ysgol, ac felly mae angen rhywbeth cyfatebol.
>
> 'Pobol y Rhif' medde fi, ond mae'n rhaid bod rhywbeth gwell...
Dw i'n hoffi dy gynnig di, David. Mae'n syml ac yn ddealladwy. Mewn
ysgol cyfrwng Saesneg mae hynny'n arbennig o bwysig. Does dim pwynt cael
rhywbeth clyfar iawn os nad oes neb yn gallu ei ynganu.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|