Diolch Geraint - dwi'n meddwl mod i wedi drysu efo negydd dwbl yn y Saesneg!
On 25 Jul 2011, at 15:52, Geraint Lovgreen wrote:
> Hynny yw, mae "nid oes dim arian" yn gywirach na "nid oes unrhyw arian".
>
> "ond does dim arian" fyddai'n fwy naturiol hwyrach.
>
>
> ----- Original Message ----- From: "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, July 25, 2011 9:49 AM
> Subject: Re: nid oes dim
>
>
>> Diolch yn fawr!
>>
>>
>> On 25 Jul 2011, at 09:48, Gorwel Roberts wrote:
>>
>>> Cywir!
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned
>>> Graham-Cameron
>>> Sent: 25 July 2011 09:36
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: nid oes dim
>>>
>>> Bore da bawb
>>>
>>> Ydi hi'n gywir dweud "ond nid oes dim arian"? Mae'n swnio'n chwithig i mi,
>>> ond mae'n gynnar ar fore dydd Llun a dwi'n ama fy hun! Mi fuaswn i'n dweud
>>> "nid oes arian" neu "nid oes unrhyw arian", ond falla bod "nid oes dim" yn
>>> gywir hefyd?
>>>
>>> diolch am unrhyw gyngor
>>> Sioned
|