Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond mae'n
ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r enw llawn wedi'r
cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth a ro"sti, ond bod un
rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg iawn mewn gwledydd eraill, ond
yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw. dan Wikipedia "potato pancakes": See
Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond oni
fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael "patis tatis"
neu "patws tatws"!).
Yn mwydro eto,
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Lloyd
Wallace
Sent: 23 July 2011 08:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
Diolch Anna - dw i'n cytuno.
Gwenda
On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd <[log in to unmask]>
wrote:
>Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i ni i gyd,
>lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod na le dros adael
>hash browns hefyd.
>
>Anna
>
>2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
>
>> Ia, bwydlen!
>>
>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn adael
tarte
>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten Tatin.
>>
>> Diolch yn fawr.
>>
>> Gwenda
>>
>>
>> --
>>
>>
>> Gwenda Lloyd Wallace
>>
>> Cyfieithydd/Translator
>>
>> Troed-y-rhiw
>>
>> Cefn-llwyd
>>
>> Aberystwyth
>>
>> Ceredigion
>>
>> Cymru/Wales
>>
>> SY23 3HX
>>
>>
>>
>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|