Diolch, Geraint.
Dw i'n treio meddwl am ffordd neis o ddweud na ddylid talu gormod o
sylw i farn rhywun sy'n mynnu defnyddio ACSs am Ardaloedd Chwilio
Strategol a NDCs am Nghynlluniau Dyluniad Coedwigoedd!
Noson dda neithiwr!
Siân
On 6 Gorff 2011, at 15:24, Geraint Lovgreen wrote:
> Aaa! Digon i yrru rhywun yn benwan!
>
> Fy nghynnig i fysa delio efo IPC fel yr oeddet wedi gwneud yn
> wreiddiol.
>
> Dydi'r acronymau eraill byth yn mynd i fod yn ddealladwy i neb
> felly yn bersonol mi fasn i'n gwneud yr un peth efo'r rheiny, sef
> cyfieithu'r enw'n llawn y tro cyntaf gyda'r acronym Saesneg mewn
> cromfachau ac wedyn cyfeirio atynt fel ardaloedd SSA a chynlluniau
> FDP neu beth bynnag ydi'r acronym Saesneg.
>
> Geraint
>
> Dydi'r Gymraeg ddim yn iaith addas ar gyfer acronymau.
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, July 06, 2011 3:15 PM
> Subject: acronymau eto fyth
>
>
> Rwy'n gwneud gwaith i asiantaeth PR sy'n gweithio ar brosiect i
> gwmni mawr.
>
> Mae llawer o gyfeiriadau yn y gwaith at yr Infrastructure Planning
> Commission (IPC). Rai misoedd yn ôl, ar ddechrau'r gwaith,
> gofynnwyd i mi gyfieithu'r enw'n llawn y tro cyntaf yr oedd yn
> digwydd mewn dogfen a defnyddio IPC wedi hynny. Popeth yn iawn.
>
> Erbyn hyn, maen nhw wedi penderfynu defnyddio acronymau Cymraeg yn
> cynnwys CCS am yr IPC, ACSs am Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAs),
> ac NDCs am Nghynlluniau Dyluniad Coedwigoedd!
>
> Fe alla i roi fy nhroed i lawr gyda ACSs ac NDCs ond beth am AChS
> (oedd) a CDC(au)? A beth yw'r farn am IPC? Mae IPC a CCS yn
> digwydd yn eitha aml ar y we ond mae'r IPC ei hunan yn defnyddio IPC.
>
> Mae'n debyg bod gan y Welsh-speaker in the office dipyn o glowt ac
> mae'r dyn bach rwy'n delio ag e yn tynnu gwallt ei ben yn treio
> cadw'r ddysgl yn wastad!!
>
> Diolch
>
> Siân
|