Wnaeth Mynediad am ddim ganu "Fi yw y fi yw y fi yw y fi" heb i neb feddwl
bod rhyw ystyr diwinyddol i'r peth.
Mi fase "Ydwyf yr hyn ydwyf" *efallai* yn gwneud imi feddwl hynny, ond nid
"Fi ydi fi".
Geraint
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 03, 2011 5:00 PM
Subject: Re: Be who you want to be
Ond, wrth gwrs, mae ystyr diwinyddol i 'fi ydi fi', a byddai'n well
esbonio i'r cleient mai dyna (neu rywbeth yn debyg iddo) a geir yn y
Beibl fel ateb gan Dduw i Moses
"Dywedodd Duw wrth Moses, "Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl
Israel, 'Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.'"
Byddai felly, rhywbeth fel 'fi ydi fi' a mwy o ystyron iddo na'r hyn,
efallai, y byddai'r person am ei gyfleu a dylid esbonio'r ystyron os
ydych chi'n cynnig 'fi ydi fi'.
Yn bendant, petawn i i weld hwnnw ar datw byddwn i'n meddwl bod y
person yn honni mai Duw yw ef, neu wedi cael y tatw heb ddeall
goblygiadau'r gosodiad i gristnogion (ac Iddewon a Moslemiaid).
Muiris
2011/6/3 Sian Jones <[log in to unmask]>:
> Da - a bachog - a llai fyth o inc (a phoen!)
>
> ________________________________
> Date: Fri, 3 Jun 2011 15:16:53 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Be who you want to be
> To: [log in to unmask]
>
> Be am Fi ydi fi?
>
> Ffon symudol: 07900061784
>
> ----- Original Message -----
> From: Sian Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, June 03, 2011 1:43 PM
> Subject: Re: Be who you want to be
> Wedi pasio'r awgrymiadau ymlaen - diolch yn fawr - mae ganddi hi, druan,
> restr o ddewisiadau erbyn hyn - a hithau'n ddi-Gymraeg! Byrra amdani
> ddeuda
> i!
>
>
> Sian
>
> ________________________________
> Date: Fri, 3 Jun 2011 10:04:27 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Be who you want to be
> To: [log in to unmask]
>
> neu 'bydd be ti isio fod' neu 'bydd driw i ti dy hun' ??
>
> ----- Original Message -----
> From: Sian Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, June 02, 2011 8:33 PM
> Subject: Re: Be who you want to be
> Ha ha - go dda - ia, mi awgryma i hon.
>
> ________________________________
> Date: Thu, 2 Jun 2011 20:38:30 +0200
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Be who you want to be
> To: [log in to unmask]
>
> Pam dyn nhw'n yn lecio 'byddwch fel y mynnwch' tybed? Llai ffurfiol ella -
> 'bydd be t'isio' (mae'n fyrrach ac o wbod bod tatws (maddeuwch y diffyg to
> bach, nid llysia sy dan sylw yma) yn bur boenus byrra'n y byd gora oll
>
> Anna
>
> 2011/6/2 Sian Jones <[log in to unmask]>
>
> Unrhyw awgrymiadau plis - ar gyfer tatw - wedi bod yn pendroni a dadlau am
> hwn drwy'r pnawn - maen nhw'n awyddus iawn i gadw'r ystyr - hynny ydy -
> dydyn nhw ddim yn hapus i mi ddefnyddio dim byd tebyg i 'Byddwch fel y
> mynnwch' !!
> Diolch,
> Sian
>
>
>
>
>
>
>
> e: Thu, 2 Jun 2011 17:54:39 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: NID nepell
> To: [log in to unmask]
>
> Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst
> yr
> holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl?
>
> Tafled i mewn i ‘Ystafell 101’, ar ei ben!
>
> Eurwyn.
>
>
>
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
> Sent: 02 June 2011 06:40
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: NID nepell ?? !!
>
> Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu
> (J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn
> dweud
>
> Nepell = pell
> Nid nepell = agos
>
> Rhian
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 01 June 2011 16:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: NID nepell ?? !!
>
> I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir.
>
>
> Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557)
>
> ----- Original Message -----
> From: Eurwyn Pierce Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM
> Subject: NID nepell ?? !!
>
>
> Peidied neb byth â goddef yr ymadrodd ‘nid nepell’ !
>
> Ystyr ‘nepell’ yw ‘nid yn bell’ / ‘heb fod ymhell’ = h.y. = YN
> AGOS.
>
> Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes
> gwerth
> eu halen; OND …
>
> Mae dweud ‘nid nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt;
> oherwydd fod dau ‘namyn’ (‘minws’) yn creu un ‘positif’!
> Yn nhermau mathemateg, mae dyblu’r negyddol yn gyfystyr â chadarnhau’r
> cadarnhaol.
>
> Felly:
>
> Ystyr ‘NID nepell’ yw ‘Nid nid ymhell’ = nid yn agos = h.y. YN BELL
> !!
>
> Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y
> cyfryngau a’r wasg Gymreig.
>
> Eurwyn.
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 01 June 2011 10:45
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
> Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont?
> Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont.
>
>
> Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da.
>
>
> Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"?
>
>
> Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn?
>
>
> Cofion
>
>
> Siân
>
> On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote:
>
>
>
> 'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh
> coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: Huw Tegid
> To: [log in to unmask]
> Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
> Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i. Ar ôl gweld cynnig
> Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir.
> Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’?
>
>
> Cofion gorau,
>
>
> Huw
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 31 Mai 2011 22:11
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
> Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ?
>
> ----- Original Message -----
> From: anna gruffydd
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai
> milltiroedd
> i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae
> mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud
> 'access'
> ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros
> 'ger
> y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd
> Heledd
> ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd
> yno ar fferi.
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>
> Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd
> eraill.
> Ann
>
>
>
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
> Sent: 31 May 2011 16:46
>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch
> a
> cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell
> iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]>
> Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi.
>
> ----- Original Message -----
> From: anna gruffydd
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM
> Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Lecio hwnnw!
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]>
> Ynysoedd “dros y don” !
>
>
> Llyr
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire
> Richards
> Sent: 31 May 2011 15:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: offshore islands
>
>
> Yng nghyd-destun danfon nwyddau.
>
>
> Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar
> gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth,
> Ynys
> Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac
> ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu
> Sheppey.
>
>
> Diolch.
> Claire
>
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr
> o
> dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A
> Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
>
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the
> number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr
> Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
>
>
>
>
>
> ________________________________
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11
>
>
>
>
>
>
|