Meddai Rhian Huws:
> Dwi ddim am rygnu ymlaen am hyn, na bwrw amheuaeth dros gywirdeb GPC ychwaith (feiddiwn i ddim!), ond mae’r
> Golygiadur hefyd yn nodi mai ‘pell’ yw ystyr ‘nepell’ – dyna o leiaf bum ffynhonnell uchel eu parch ac eang eu defnydd
> yn dweud yr un peth!
> Ble mae hyn yn ein gadael ni, gyfieithwyr druan, heb sôn am bobl y cyfryngau?!
Un o brif swyddogaethau geiriaduron cynhwysfawr safonol megis GPC a Geiriadur Rhydychen yw cyflwyno cofnod hanesyddol o'r holl ystyron y mae gair wedi meddu arnynt. Yn y ddwy iaith, ceir ambell achos lle mae ystyr gair wedi newid mor llwyr, dros gyfnod o ganrifoedd, fel bod ei ystyr cyfoes yn wrthwyneb union i'w ystyr gwreiddiol. Yn amlwg mae 'nepell' yn un o'r geiriau hyn.
Fel y mae Rhian wedi nodi, mae o leiaf bump o awdurdodau ieithyddol Cymraeg wedi bwrw llinyn mesur dros etymoleg y gair, ac wedi penderfynu mai 'pell' yw'r ystyr cywiraf. Wela' i ddim rheswm dros beidio â derbyn y consensws unfrydol hwnnw. Yn bersonol, dw i wedi dilyn arweiniad J. Elwyn Hughes a Peter Wynn Thomas ynglyn â 'nepell' ers blynyddoedd.
Wyn
|