Dwi'n cytuno, mae na wahaniaeth reit sylfaenol rhwng unsuitable ac unfit.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, June 14, 2011 11:24 PM
Subject: Re: unfit
Rwy'n gweld bod "anaddas" yn cael ei ddefnyddio yn aml iawn am
"unfit" ond rwy hefyd yn teimlo bod gwahaniaeth weithiau rhwng
"unfit" ac "unsuitable" a bod angen cyfleu hynny yn y Gymraeg.
Er enghraifft, pe bawn i'n gweld y frawddeg "Barnwyd bod yr ysbyty yn
anaddas i'n cleifion seiciatrig" byddwn yn debygol o'i chyfieithu fel
"The hospital was deemed to be unsuitable for our psychiatric
patients" ond yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd oedd "The hospital
was deemed to be unfit for our psychiatric patients" - a all olygu
rhywbeth ychydig yn wahanol. I mi, mae 'na elfen o feirniadaeth neu,
o leiaf, cyfeiriad at gyflwr, yn "unfit" weithiau.
Siân
On 14 Meh 2011, at 22:54, Mary Jones wrote:
> Felly, os ydych chi'n gwrthod y term 'anaddas', ai gofyn ydych chi am i
> bopeth sydd i gael ei gyhoeddi, ac ati, o hyn allan ddefnyddio'ch term
> newydd chi, gan anwybyddu Geiriadur yr Academi, er enghraifft? Dim ond i
> ni
> gyfieithwyr eraill gael gwybod.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Humphreys
> Sent: 14 June 2011 16:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: unfit
>
> Ma hwnna'n taro deuddeg yn fy marn i.
>
> Nia
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
> Sent: 14 June 2011 16:01
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: unfit
>
> Cyflwr y tai sydd dan sylw yma felly tybed a fyddai 'Tai mewn Cyflwr
> Anaddas' yn gliriach?
>
> Rhian
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 14 June 2011 15:12
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: unfit
>
> 'Rwyf wedi gorfod disgrifio adeiladau, ffyrdd a "visibility" sy'n
> "substandard" ac wedi defnyddio sawl cyfieithiad, e.e.
> is na'r safon, lle na ellid gweld yn foddhaol (substandard visibility),
> ddim
> ... yn ddigonol. Ond lle nad oes "safon" cydnabyddedig go iawn, caf
> "anfoddhaol" yn ddefnyddiol.
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 14 June 2011 15:01
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: unfit
>
> Rwy'n teimlo bod gwahaniaeth rhwng tÅ· nad yw'n addas a thÅ· nad yw'n
> ffit i
> fyw ynddo.
> Gall tŷ beidio â bod yn addas i rywun am fod grisiau serth ynddo. Mae
> "ffit" yn ymwneud mwy â'i gyflwr. Ydi?
>
> Siân
>
> COLEG MENAI
> FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.
> Tel.01248370125 Fax.01248370052
> www.menai.ac.uk
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at
> sylw'r
> unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd i'r neges eich
> cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal â chysylltu â'r person a
> anfonodd
> y neges a dileu'r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni ddylech gopïo,
> dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys
> safbwyntiau
> personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd
> hynny'n
> bendant. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a
> achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.
>
> This email and any attachments are confidential and intended for the
> named
> recipient only. If it has reached you by mistake please contact the
> sender
> and delete the material from any computer and you should not copy,
> distribute or show the content to anyone. The contents of the message may
> contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless
> specifically stated. We cannot accept any liability for any loss or
> damage
> sustained as a result of software viruses.
|