Tybed ydy Wicipedia Cymraeg yn gywir? Gan fod Llan- yn peri treiglad meddal, byddai rhywun yn disgwyl ffurf fel Llanfilo (a gwahanol amrywiadau ar honno) yn Gymraeg.
Ceir plwyf o'r enw Llanfilo yn Sir Frycheiniog sy'n cael ei hesbonio yn Dictionary of the Place-Names of Wales fel lle sy'n cynnwys enw'r santes Bilio (neu Beilo). Ai'r un santes sy'n cael ei choffáu yn Llanmiloe tybed? (Yn ôl DPNW, sonnir am Millewe fel enw arall ar Lanfilo yn 1503. Hefyd mae M a B yn cael eu defnyddio fel ffurfiau cysefin weithiau, ee beiddio/meiddio; bath/math.
Dyma fe, tipyn o bencawna ar bnawn Sadwrn.
Paul.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 15 Jun 2011 14:03:23
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Llanmiloe (Sir Gar)
Yn ôl Wicipedia Cymraeg, Llanmilo ydi'r enw Cymraeg, a Llanmiloe yn fersiwn Seisnigedig. Mae'n agos at Laugharne mae'n debyg (a dyna fi wedi dysgu rhywbeth arall heddiw!)
Sioned
On 15 Jun 2011, at 13:57, Gareth Jones wrote:
> Meddeuwch i mi fy anwybodaeth, ond ai fersiwn wedi'i Seisnigeiddio o enw lle ydy hwn (tebyg i Llantwit/Llanilltud)? Dyma'r tro cyntaf i mi ddod ar draws enw'r pentref.
|