Wi wedi cael gwybod erbyn hyn bod yna dudalen gwe Cymraeg gan yr NHS
ynghylch y prawf FAST yma:
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-page.cfm?orgid=840&pid=41496
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian
Roberts
Sent: 21 Ebrill 2011 13:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: FAST
Hwnna'n edrych yn wych i mi! Llongyfarchiadau!
Cwpwl o bwyntiau - o ran myrraeth!:
1) y geg?
2) Rwy'n gwybod bod rhai yn gyndyn o ddefnyddio "person" am
"person" (Saesneg). A oes dewis arall fan hyn? - heblaw "Ydi e/hi yn
gallu ...?" sy dipyn bach yn lletchwith, neu "y claf " sy ddim yn
ddelfrydol chwaith
3) Ydi "galw" yn cael ei ddefnyddio'n naturiol am "ffonio" yn
Gymraeg? Mae "galwad" yn cael ei ddefnyddio ond dw i ddim yn siwr am
y ferf.
4) Ydi "ydy" wedi'i dderbyn erbyn hyn? Well gen i "ydi" o lawer yn
bersonol. Os ydw i'n cofio'n iawn, roedd dadl rhwng Bobi Jones a
rhywun ar y pwnc - un yn ffafrio dilyn y sain a'r llall o blaid
dangos y tarddiad.
Wps! Reit, gwaith!
Siân
On 21 Ebrill 2011, at 12:47, Dewi Bowen Williams wrote:
> Helo David,
> A fyddai hyn yn gweithio? Cadw llythyren gyntaf y frawddeg yn fach
> ac eithrio'r olaf a llythyren fawr wedyn i'r geiriau i sefyll allan.
> Wedyn chwarae efo'r gair HAST. Bydd y gair Hast yn rhedeg i lawr ac
> ar ddechrau'r frawddeg olaf.
>
> gwendid yn eu Hwyneb: Ydy’r person yn gallu gwenu? A ydy’r llygad
> neu un ochr y ceg wedi gostwng
> gwendid yn yr Aelodau: Ydy’r person yn gallu codi’r ddwy fraich?
> problemau i Siarad: Ydy’r person yn gallu siarad yn eglur a deall
> yr hyn rydych yn ei ddweud?
> HASTiwch - -Trowch at y Ffôn a galwch 999
>
> Dewi
>
> -----Original Message----- From: David Bullock
> Sent: Thursday, April 21, 2011 11:58 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: FAST
>
> FAST fel yn yr hysbyseb teledu ynghylch nabod strôc: http://
> www.nhs.uk/actfast/Pages/stroke.aspx
>
> Dyma'r testun sy gen i:
>
> FACIAL weakness: Can the person smile? Has their mouth or eye drooped?
> ARM weakness: Can the person raise both arms?
> SPEECH problems: Can the person speak clearly and understand what
> you say?
> TIME to call 999.
>
> Cyn imi benderfynu anwybyddu'r acronym, a mynd ati i aralleirio,
> dyma'ch cyfle chi i greu fersiwn Cymraeg...
>
> Diolch yn fawr.
|