Mae'n debyg mai llygriad o "Llechwedd" ydi Leckwith - fyddai Llechwedd ddim
yn fwy derbyniol na "Lecwydd" ?
Geraint
----- Original Message -----
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 04, 2011 11:52 AM
Subject: Re: Leckwith Road
Y cyngor sydd wedi ymddangos yma gwpl o weithiau o'r blaen ydy peidio a
chyfieithu enwau strydoedd Caerdydd os nad ydynt ar ryw restr gyfyngedig
(amgaeedig). 'Rwyf wedi cynnwys y rheswm yn rhan o'r rhestr, ond mae
honno'n mynd yn ol at 2001. Os nad yw'r heol lletchwith 'ma'n un reit
newydd, byddwn i'n gadael yr enw fel y mae (er y gellid mynd yno ar Google
Street View a cheisio cael cip ar yr arwydd).
Ann
Original Message:
-----------------
From: Gwilym Lovgreen [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 11:13:10 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
Lecwydd ydi Leckwith yn Gymraeg ond dwi erioed wedi sylwi ar enw Cymraeg ar
y ffordd.
From: CATRIN ALUN
Sent: Monday, April 04, 2011 10:45 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Leckwith Road
Sut mae ffeindio enwau strydodd Cymraeg yng Nghaerdydd plis?!
Ai Heol Leckwith ydy hwn?
--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE - Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE
|