Gee Ceffyl Bach yw'r unig ffurf i mi ei chlywed hefyd (Abertawe).
Gwen
>>> Mary Jones <[log in to unmask]> 07/04/2011 14:17:54 >>>
Mae’n ddrwg gen fwrw caib i’r ddomen (!) mor hwyr yn y drafodaeth, ond rwy wedi bod yn
rhyfeddu’n dawel bach o glywed bod y fath fersiwn a^ ‘Gee ceffyl bach’ yn bod o gwbwl! Wir i
chi. Chlywes i am neb ariod^ yng nghyffiniau gwaelod Ceredigion yn peidio a^ threiglo. Ac o ran
‘Dere ‘ma gath’, ac ati, y peth arferol i ni yw teiglo, e.e. ‘Cer draw, gi’, ‘Paid a^
siarad dwli, ddyn’, ‘Symud, fuwch’. Felly, ai mater o dreiglo gogledd / de yw hyn wedi’r
cwbwl?
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 07 April 2011 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
A minnau efo Cor Ty Tawe neithiwr!!
Credu mai'r 'ceffyl' oedd drechaf!
Yn od iawn - does neb sy'n gwybod un fersiwn yn gallu cofio clywed y llall erioed!!
(Gyda llaw - os oes rhywun yn ardal Caerfyrddin nos fory dewch i'n cyngerdd ni yng ngapel y
Babell!!)
Catrin
_____
From: Nia Humphreys <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 7 April, 2011 12:25:08
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Dwi di cychwyn trafodaeth ymhlith staff Coleg Menai rwan – cyn hir fe fydd Cymru benbaladr yn
trafod y cwestiwn tyngedfennol hwn!!
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 07 April 2011 12:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Dacia! ma gin i Gee *effyl Bach yn mynd rownd a rownd yn y mhen i rwan a fedra i ddim cael gwarad
ag o!!
Anna
2011/4/7 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
Anfarwol!! Dwi’n siwr bydd rhywun yn cael modd I fyw wrth ddarllen y cofnodion hyn mewn
blynyddoedd I ddod!!
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 07 April 2011 10:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Gee horsey bach, wel dyma i ni le -
Ec yn y gogledd ac eg yn y de.
Sut dylem dy gyfarch sy'n dan ar ein croen.
O diar, tydi'r treiglada ma'n boen
2011/4/7 Matthew Clubb <[log in to unmask]>
"Gee, geffyl bach ..." Hwiangerddi'r Wlad, Eluned Bebb (1942)
_____
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alison Layland
Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2011 07:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
'Gee Ceffyl Bach' sydd yn Caneuon Gwerin i Blant, Phyllis Kinney a Meredydd Evans (1981), hefyd...
A dyna beth dwi wastad wedi cylwed yma ym Maldwyn hefyd.
Alison
On 06/04/2011 16:36, Matthew Clubb wrote:
"Ceffyl" sydd yn 'Caneuon Traddodiadol y Cymry' W S Gwynn Williams 1961; oes gan rywun gopi o lyfr
Hwiangerddi'r Dref Wen wrth law?
Ond diddorol gweld bod clustiau rhai ohonom ni yn mynnu cynnwys y treiglad cyfarchol er gwaetha'r
ffynonellau print - ei fod yn dal yn fyw ac yn iach felly. Mae'n ddigon naturiol ar lafar ond yw e?
'Dere 'ma, fach' / 'Isht, wnei di, ddyn?'
_____
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 06 Ebrill 2011 16:00
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Ceffyl dwi di'i glwad erioed - mae treiglo'r cyfarchol braidd yn
hen ffash tydi, ha Feinir?
Anna
2011/4/6 Meinir Thomas <[log in to unmask]>
Prynhawn da,
Oes rhywun yn gwybod pa un o'r ddau sy'n gywir? Mae fy anti newydd ofyn i mi. Mae hi'n gweithio
mewn ysgol, ac mae 'na ychydig o ddadlau yno ynghylch pa un sy'n gywir. Mae'n debyg fod y ddau'n
ymddangos mewn llyfrau. Rhaid cyfaddef, "Gee ceffyl bach" wi erioed wedi dweud. Sai'n credu mod i
wedi gweld 'Gee geffyl bach" tan i mi wglo'r peth ychydig yn ol!
Cofion,
Meinir
COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.
Tel.01248370125 Fax.01248370052
www.menai.ac.uk
Mae’r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at sylw’r unigolyn y
cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd i’r neges eich cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech
gystal â chysylltu â’r person a anfonodd y neges a dileu’r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac
ni ddylech gopïo, dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys safbwyntiau
personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd hynny’n bendant. Nid ydym yn
derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. If it
has reached you by mistake please contact the sender and delete the material from any computer and
you should not copy, distribute or show the content to anyone. The contents of the message may
contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless specifically stated. We cannot
accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
|