>enwau sy'n gwbl amlwg a hawdd fel hyn - ond, a ydy o, yn ol y drafodaeth?
Wnaethoch chi ddarllen sylw Catherine Jones yn y rhestr? "Y rheswm dros
hynny yw bod ambell i enw'n gallu peri dryswch e.e. mae Heol y Felin a Mill
Road yn bodoli mewn un ardal o Gaerdydd". Mae Mill Road yn gwbl amlwg a
hawdd hefyd, ond yw?
Mae gen i syniad mai'r Cyngor lleol (Cyngor Bro/Dinas) sydd ag awdurdod yn
hyn o beth. Oddi wrth Gyngor Caerdydd daeth y rhestr.
Ann
Original Message:
-----------------
From: CATRIN ALUN [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 12:29:23 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
Dwi wedi trio hynny Ann - ond methu gweld arwydd!
Teimlo ydw i nad yw'r cyfeiriad fan hyn yn ddim mwy na lleoliad Cynhadledd
(hy
nid yn gyfeiriad gohebu) - ac mae cod post yno beth bynnag.
Dwi ddim wir yn gweld pam na ddylen ni gyfieithu enwau sy'n gwbl amlwg a
hawdd
fel hyn beth bynnag! Mae 10 mlynedd ers 2001 - angen i'r Cynulliad ddeddfu
o
blaid enwau Cymraeg yn unig!!!!
:o)
Catrin
________________________________
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 4 April, 2011 11:52:57
Subject: Re: Leckwith Road
Y cyngor sydd wedi ymddangos yma gwpl o weithiau o'r blaen ydy peidio a
chyfieithu enwau strydoedd Caerdydd os nad ydynt ar ryw restr gyfyngedig
(amgaeedig). 'Rwyf wedi cynnwys y rheswm yn rhan o'r rhestr, ond mae
honno'n mynd yn ol at 2001. Os nad yw'r heol lletchwith 'ma'n un reit
newydd, byddwn i'n gadael yr enw fel y mae (er y gellid mynd yno ar Google
Street View a cheisio cael cip ar yr arwydd).
Ann
Original Message:
-----------------
From: Gwilym Lovgreen [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 11:13:10 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
Lecwydd ydi Leckwith yn Gymraeg ond dwi erioed wedi sylwi ar enw Cymraeg ar
y ffordd.
From: CATRIN ALUN
Sent: Monday, April 04, 2011 10:45 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Leckwith Road
Sut mae ffeindio enwau strydodd Cymraeg yng Nghaerdydd plis?!
Ai Heol Leckwith ydy hwn?
--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE – Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft® Windows® and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|