Annwyl aelodau'r Cylch,
Daeth cyfle anarferol i gael nawdd (=arian!) i ddilyn cwrs cyfieithu o
blith modiwlau cwrs Meistr mewn Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu
prifysgolion Bangor ac Abertawe.
Cynllun Dysgu yn y Gweithle yw hwn, ac (os bydd y cais yn llwyddiannus)
bydd yn galluogi cyfieithwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, neu
sy'n gweithio i gwmnïau cyfieithu preifat (ddim y sector cyhoeddus yn
anffodus) ac sy'n byw/gweithio yn yr ardal cydgyfeiriant i ennill hyd at
60 credyd o'r cyrsiau MA (mae hyn yn gyfwerth â thystysgrif ôl-radd).
Mae'r modiwlau yn ymwneud â chyfieithu ymarferol, technoleg cyfieithu, a
therminoleg, a byddwn yn datblygu'r gallu i astudio'r rhain yn rhan
amser o bell yn y project hwn.
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Bwrdd yr Iaith yn mynd i ysgrifennu
llythyrau i gefnogi'n cais, ond i fod yn llwyddiannus, byddai'n help
cael e-byst gan gynifer ag y bo modd o gyfieithwyr unigol/cwmniau bach
yn datgan eu bod yn cefnogi'r project ac yn barod i ystyried cymryd rhan
ynddo. Does dim angen ymrwymo i ddim ar hyn o bryd.
Bydd em yn ddiolchgar petai unrhyw un â diddordeb yn gyrru ebost ata i i
[log in to unmask] yn cefngoi'r cais hyfforddiant i gyfieithwyr dan y
Rhaglen Dysgu yn y Gweithle, ac yn mynegi diddordeb mewn cymryd
rhan/cael rhagor o fanylion pan ddaw'r amser.
Diolch am bob cefnogaeth,
Delyth
|