Triniaeth yw 'angioplasty' (i ledu gwaedlestri) ac roeddwn i dan yr argraff mai pwnc, astudiaeth neu ddisgyblaeth oedd gair gyda'r terfyniad -eg yn ei olygu.
Oni fyddai 'angioplasti' yn well, felly?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 05 February 2011 10:53
To: [log in to unmask]
Subject: angioplasty
TermCymru'n dweud "angioplasteg" (Statws 4) a'r Porth Termau (Gofal Iechyd Pobl Hŷn) yn dweud "angioplasti".
Tua'r un faint o'r naill a'r llall ar y we - gan yr un math o sefydliadau.
Oes un yn "gywirach" na'r llall?
Diolch
Siân
|