Mae'n dibynu ar nifer o ystyriaethau.
Un ohonynt yw: Pwy fydd y gynulleidfa debygol? A fydd yna ddarllenwyr
ymhlith y gynulleidfa honno na fydd yn debygol o fod yn gyfarwydd â
'chyfrineiriau'r cylch caeedig' o wybodusion dethol? Faint tybed o
gylchrediad cyhoeddus y mae'r byrfoddau a'r acronymau dan sylw yn eu
mwynhau, neu a ydynt yn debygol o fod yn ddieithr i amryw o'r darllenwyr
dichonol? Os oes amheuaeth nad yw nifer helaeth o'r darllenwyr neu'r
gynulleidfa yn mynd i adnabod y byrfodd neu'r acronym, yna bydd hynny yn
cryfhau'r dewis a'r ddadl dros gynnwys y teitl yn ei gyflawnder.
Wedyn, os yw'n benderfyniad i ysgrifennu un neu ddau o'r teitlau yn sicr yn
eu ffurf llawn (gan y byddai'r ffurfiau cryno yn rhy ddieithr i'r mwyafrif)
yna sut mae dethol pa rai i'w gadael ar ffurf byfrodd / llythrennau bras yn
unig? Oni ddylid anelu wedyn at gysondeb, a'u hysgrifennu i gyd allan yn
llawn?
Y drafferth nesaf yw fod y testun Cymraeg yn mynd i fod yn llawer hirach
na'r testun Saesneg cyfatebol. Ac y mae hynny'n mynd i gynddeiriogi'r
cwsmer, o bosib, o ddau safbwynt.
(a) A yw'r cyfieithydd yn mynd i godi tâl, nid yn unig am gyfieithu'r
testun, ond hefyd [1] am yr amser a dreuliodd yn gwneud gwaith ymchwil i
ddod o hyd ei hun i'r teitlau llawn (a gynrychiolir gan yr acronymau yn unig
yn y testun Saesneg gwreiddiol), ac [2] am y nifer sylweddol ychwanegol o
eiriau y bydd ef /hi wedi gorfod eu teipio i mewn yn y testun Cymraeg (ABCD
= un gair yn y gwreiddiol Saesneg, ond Adrannau Bioleg, Cemeg a
Daearyddiaeth = pedwar gair yn y testun Cymraeg terfynol); yn ogystal
efallai â chynnwys hefyd mewn cromfachau (i hwyluso crebwyll y darllenydd) y
byrfodd / acronym mwy cyfarwydd o'r Saesneg gwreiddiol (sy'n ychwanegu un
'gair' eto fyth at y cownt terfynol o eriau). Heb sôn am fynd i osod allan
y teitl Saesneg hefyd yn ei gyflawnder; sy'n gallu golygu wedyn y bydd un
byrfodd / acronym (e.e. ABCD - ag iddo 'gownt' gwerth UN gair) yn y Saesneg,
yn gallu troi allan i fod cyhyd â deg o eiriau yn y testun Cymraeg targedol!
(b) Pwy sy'n mynd i fod yn gyfrifol am wneud y gwaith cyfrifiadura
ychwanegol(a chael ei dalu / ei thalu am wneud hynny) yr ail-fformadau,
ail-wampio, ail-gysodi, ac ati, - er mwyn gosod y nifer ychwanegol o eiriau
(nifer o lythrennau yn llythrennol ar adegau) y gellir eu gosod i mewn yn yr
un maint o ofod yn union â'r testun Saesneg gwreiddiol - o safbwynt gofod
testun, gofod colofn, gofod paragraff, gofod blychau testun (text boxes)- o
bob math o amrywiol ffurfiau a siâpiau). Ac wedyn, ar gyhoeddiadau
dwyieithog (naill gefn-wrth-gefn neu ochr-wrth-ochr) bydd yn hanfodol cadw
at yr un nifer o dudalennau, fel bod maint y ddau destun yn y ddwy iaith yn
cyfateb â'i gilydd, yn dechrau ac yn gorffen ar yr un tudalennau cyfatebol,
ac ati.
A mae yna nifer o ystyriaethau eraill hefyd. Hanfod y penderfyniad yw fod
yn rhaid gwirio gyda'r cwsmer bod tro (a cheisio ei gael ef / hi i ddeall yr
holl oblygiadau), fel bod gofynion y cwsmer yn cael eu bodloni ar y diwedd.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 01 February 2011 22:43
To: [log in to unmask]
Subject: Enwau Cymdeithasau
Oes yna reol ynglyn ag enwau cymdeithasau mewn rhestr hir o wahanol
gymdeithasau. A ddylid ceisio cyfieithu'r teitl llawn neu ei adael fel y
mae?
E.e. Linking Education and Disability (LEAD) (Yr Alban)
National Bureau for Students with Disabilities (SKILL)
Diolch am unrhyw gyngor
Garry
|