Y cyntaf neu'r olaf byddwn i'n dweud. Mae dweud bod syndrom 'ar' rywun
yn swnio'n rhyfedd i mi. Ond eto rydym yn dweud bod 'y frech goch' neu
'annwyd' ar rywun. Efallai mai fi sy'n meddwl yn Seisnigaidd? Neu
ydi'r ymadrodd efo 'ar' yn cael ei ddefnyddio dim ond ar gyfer clefyd
heintus sy'n dod ac yna'n mynd? Dw i'n trio meddwl am enghreifftiau
eraill i gymharu ond does dim byd yn dod i'r meddwl. Quoting
Carolyn <[log in to unmask]>:
> Ga'i ofyn barn y cylch am ymadroddion fel hyn?: Maen nhw i gyd i'w gweld
> mewn gwahanol ddogfennau ac mae'n rhywbeth sy'n codi'n aml - pa un fyddech
> chi'n ei ffafrio?
>
>
>
> pobl ifanc sydd a/â syndrom Asperger (y ddau i'w gweld)
>
> pobl ifanc a syndrom Asperger arnynt
>
> pobl ifanc ac arnynt syndrom Asperger
>
> pobl ifanc â syndrom Asperger
>
>
>
> Carolyn
>
>
>
>
----------------------------------------------------------------
This message was sent using IMP, the Internet Messaging Program.
|