Oes yna sillaf ar goll o'r gair "ymddiriedig"?
Hynny yw, "-edig" yw'r terfyniad, ac mae hwnnw'n cael ei ychwanegu ar ôl y
bôn, sef "ymddiried". Byddai hynny'n rhoi "ymddiriededig".
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd
Tomos
Sent: 11 Chwefror 2011 11:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: trusted certificate
On Feb 10, 2011, Dafydd Lewis wrote:
> Diolch Dafydd,
>
> Fyddai 'tystysgrif ymddiried' yn gweithio?
Dwi ddim yn meddwl - fasen i'n defnyddio 'tystysgrif ymddiriedig' mewn
cyd-destun technegol. O'n i'n meddwl am eiriad fel 'wedi ei ymddiried'
ond mae hynny'n debycach i 'entrusted to' dwi'n credu.
|