Diolch Dafydd,
Fyddai 'tystysgrif ymddiried' yn gweithio?
Dafydd
On Tue, 8 Feb 2011 23:16:05 +0000, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
>On Feb 08, 2011, Dafydd Lewis wrote:
>> Ym maes technoleg gwybodaeth.
>> Fyddai 'tystysgrif ddiogel' yn gweithio? Neu 'tystysgrif ddibynadwy'?
>
>Mae angen bod yn ofalus os yw hwn yn cael ei ddefnyddio lle mae'r
>ystyr dechnegol yn bwysig.
>
>Mae tystysgrifau electronig yn cael eu defnyddio i amgryptio
>gwybodaeth rhwng dau system a mae'n rhaid cael par ohonyn nhw
>1) 'awdurdod' a 2) 'cleient' neu defnyddiwr.
>
>Mewn porwyr gwe, mae rhestr o awdurdodau sydd wedi ei llwytho yn barod
>gan gwmniau sydd yn cael eu 'hymddiried' gan ddatblygwyr y porwr. Does
>dim rhaid i ddefnyddwyr wneud dim felly wrth greu gysylltiad diogel.
>
>Mae hefyd yn bosib cael awdurdod heb ei ymddiried, lle mae'n rhaid i'r
>defnyddiwr ddewis ymddiried fod yr awdurdod yn un cywir (am ei fod
>wedi ei ddarparu gan gyflogwr neu rhyw ddefnyddiwr neu system arall
>mae nhw'n eu adnabod o flaen llaw)
>
>Yn y ddau achos, mae'r tystysgrifau hyn yn galluogi creu cysylltiad
>'diogel' a dibynadwy wedi ei amgryptio.
>
>Ffordd hir o ddweud felly fod angen ystyried dweud 'ymddiriedig' neu
>'ymddiriedol' os yw hynny'n fwy cywir.
>
>Dyw e ddim yn edrych i fi fod naill ai Firefox Cymraeg neu Windows
>Cymraeg yn cyfieithu'r term yma (yn bennaf am nad yw e y math o derm
>sy'n ymddangos i'r defnyddwyr cyffredin yn Saesneg chwaith).
>
>Ond ar Windows Cymraeg, wrth gysylltu gyda gweinydd diogel lle nad
>yw'r tystysgrif yn un 'trusted' mae'n dweud
>
>"Cafodd y dystysgrif ddiogelwch ei chyhoeddi gan gwmni rydych chi wedi
>dewis peidio ymddiried ynddo. Edrychwch ar y dystysgrif i benderfynu
>a ydych chi am ymddiried yn yr awdurdod tystysgrio ai peidio"
|