Efallai bod yr ateb yma yn rhy hwyr nawr, ond gwrthodwyd "ystrydeb" a'i ffurfiau cyfansawdd gan
arbenigwr yma yn yr un maes ag y mae Gareth yn cyfieithu ynddo. Mynnwyd ar "stereoteip".
Hwyl
Gwen
>>> Carolyn <[log in to unmask]> 21/12/2010 13:45 >>>
Dw i'n rhyw deimlo mai math o ystrydeb yw stereoteip - hy bod stereoteip yn
cael ei lunio ar sail gwahanol fathau o ystrydebau.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 21 Rhagfyr 2010 13:04
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB/RE: stereotype
Esboniodd Delyth Prys i fi ryw dro fod angen gwahaniaethu rhwng stereoteip ac ystrydeb mewn rhyw
faes neu feysydd penodol. Dwi ddim yn cofio manylion y sgwrs, ond mae'r Geiriadur Termau Seicoleg,
er enghraifft, yn cofnodi mai 'stereoteip' yw 'stereoptype'.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Lovgreen
Sent: 21 Rhagfyr 2010 12:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: stereotype
Dwnim be di'r ateb y byddai rhywun sy'n gweithio yn y maes yn ei roi, sori, ond 'ystrydeb' ydi'r
gair, nid 'ystyrdeb' !
Geraint
----- Original Message -----
From: "Gareth Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 21, 2010 6:11 AM
Subject: stereotype
Dwi wrthi'n cyfieithu polisi cyfle cyfartal ar hyn o bryd.
Beth fyddech chi'n ei ddefnyddio ar gyfer 'stereoptype' wrth gyfieithu polisi o'r math hwn,
stereoteip ynteu ystyrdeb?
Ydy 'ystyrdeb' yn fwy addas fel cyfieithiad o 'cliché' na 'stereotype'?
|