Gair wedi'i greu o'r Lladin 'subito' ('sydyn') yw 'subitize', felly, ife?
Rhyw fath o sydynsynied, cipsynied, cipsynio?
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwion Evans
Sent: 07 Ionawr 2011 15:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: subitize
Er fod hoff gen i "cipgyfrif" dros "brysgyfrif" mae gen i amheuaeth am gynnwys "cyfrif" yn y term oherwydd yr amwysedd y gellir ei gynhyrchu. Yn �l Geiriadur Saeseneg Rhydychen term defnyddir yn Seicoleg (yn hytrach na Fathemateg) yw "subitize", a'i ystyr yw:
"To apprehend immediately (the number contained in a small sample)."
Rwy'n meddwl y byddai'n well bathu term arbennig i wahaniaethu rhwng y weithred o gyfrif (fesul un, dau, tri ac ati) (pa bynnag mor sydyn) a'r weithred o wybod neu i gael y synnwyr o ddeall yn sydyn sawl eitem sydd ar gael mewn casgliad heb gorfod cyfrif neu fod yn ymwybodol o wneud amcangyfrif. Deallaf fod "cyfrif" yn gallu meddwl "judgement" hefyd sydd yn ddisgrifiad mwy priodol o "subitize", ond yr anfantais yw y cysylltiad gyda chyfrif eitemau fesul un.
Mae'n ddrwg gen i nad oes gen i derm arall i'w gynnig ond gobeithio bydd hyn yn helpu rhywfaint yn hytrach na chymlethu pethau'n ormodol.
Diolch,
Gwion.
Dr Gwion Evans,
Darlithydd Mathemateg (Cyfrwng Cymraeg),
Sefydliad Mathemateg a Ffiseg,
Prifysgol Aberystwyth.
|