Diolch yn fawr am eich eglurhad Berwyn - diddorol iawn. Mi wna i barhau i ddilyn 'Geiriadur Gomer i'r Ifanc' a 'Geiriadur yr Academi'!
Diolch i chi hefyd am dynnu sylw at 'pam eich bod'. Cefais fy nysgu i beidio a defnyddio 'pam bod/fod', ond mi lithrodd hwn i mewn ... Byddwn innau'n falch o gael gwybod a ydy o'n parhau i gael ei ystyried yn anghywir.
Gwenda
On Thu, 13 Jan 2011 17:00:21 +0000 , Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
>Yn nyddiau'r oes a'r blaidd pan oedd Mary (Jones) a fi'n gydweithwyr, ein
>harfer ni fyddai cynnwys cyplysnod os byddai hynny'n ei gwneud hi'n haws
>darllen y testun, h.y. hepgor y cyplysnod yn achos berfenw byr ar o^l 'ail',
>dyweder. 'Ailddangos', felly, ond 'ail-arddangos' am fod y berfenw'n dair
>sillaf o hyd. Synnwyr y fawd yn hytrach na dilyn rheol gaeth ...
>
>(Byddwn i'n tueddu, o hyd, i roi cyplysnod yn 'bras-ddarllen' ac yn sicr
>byddai 'llithrddarllen' yn peri i mi 'lithro-ddarllen' drosto heb ei sgimio
>na'i sganio!)
>
>Wedi hynny, daeth pobl fel Bruce a Delyth (ar sail orgraff GPC) i'n
>cynghori i osgoi defnyddio cyplysnod oni bai bod rhaid. Dyw Bruce a Dafydd
>Glyn ddim yn rhoi cyplysnod ar o^l yr elfen 'ail' yng Ngeiriadur yr Academi
>ond bydd Cysill yn ein cynghori ni i wneud hynny. Pwy ddylwn i ei ddilyn,
>felly? Dau Lywydd er Anrhydedd Cymdeithas y Cyfieithwyr a'm hyfryd
>chwaer-yng-nghyfraith, neu Cysill? Oes angen dweud?!
>
>Mae cystrawen yn sylw Gwenda yn codi cwestiwn sy'n clymu ag edefyn arall,
>sef cywiro cyfraniadau aelodau'r cylch. Barn T J Morgan oedd bod 'pam fod'
>yn anghywir (awgrymodd mai dylanwad 'Pam fod eira'n wyn?' oedd wedi trechu
>arfer Cymry Cymraeg o ddweud 'pam (y) mae/pam wyt ti/pam ydych chi'. Wn i
>ddim a oes unrhyw un wedi ymchwilio i weld a oedd ei farn yn gywir (cofier
>mai '... yn gwybod pam fod ...' yw'r gystrawen, sef ychwanegu 'pam' at
>'gwybod bod/fod').
>
>Ydy 'pam bod/fod' yn anghywir, felly? Fydda i ddim yn ei ddefnyddio ond
>mae'n 'ddatblygiad' mor
>gyffredin nes bod dyn yn tueddu i'w dderbyn bron yn ddigwestiwn erbyn hyn,
>yn enwedig am mai datblygiad brodorol yw ef yn hytrach nag yn un sy'n amlygu
>dylanwad y Saesneg.
>
>Y pwynt rwy'n ceisio'i wneud yw bod rhaid arfer pwyll wrth gywiro'r hyn y
>mae pobl eraill yn ei ysgrifennu (heb ei fai, ...). Bydd hyd yn oed y
>goreuon yn tybio weithiau fod eu mympwy yn rheol go bendant!
>
>Berwyn
>2011/1/13 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
>
>> Diolch yn fawr am yr eglurhad Berwyn, ond wnewch chi egluro pam eich bod yn
>> cynnwys y cysylltnod yn bras-ddarllen a llithr-ddarllen os gwelwch yn dda -
>> mi fyddwn i wedi eu sillafu heb y cysylltnod ...
>>
>> On Thu, 13 Jan 2011 13:11:00 +0000 , Berwyn Jones <
>> [log in to unmask]> wrote:
>> >Gan mai fi fu'n gyfrifol am gyfieithu dogfennau fersiwn 1 a 2 o'r
>> Cwricwlwm
>> >Cenedlaethol, efallai y dylwn i ddweud mai ar sail cyngor rhai o Arolygwyr
>> >Ei Mawrhydi - T Emrys Parry ac Illtyd Lewis, yn fwy na neb - y
>> penderfynwyd
>> >ar y termau a ddefnyddiwyd.
>> >
>> >Mae gen i gopi yn rhywle, rwy'n credu, o nodyn a grynhoai ddyrnaid o'r
>> >termau Cymraeg y dylid eu harddel wrth gyfieithu'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
>> >Awdur y nodyn oedd gwas sifil yn Adran Addysg y Swyddfa Gymreig, a chan
>> fod
>> >'copi i T Emrys Parry' arno, rwy'n cymryd mai ffrwyth trafodaeth rhwng y
>> >ddau ohonyn nhw oedd y nodyn hwnnw. Yn sicr, fe ddeddfwyd ynddo mai
>> 'Cyfnod
>> >Allweddol' fyddai 'Key Stage' (yn hytrach na 'Cam Allweddol', mae'n
>> debyg).
>> >
>> >Câi amryw o'r termau fel cipddarllen a llithr-ddarllen eu defnyddio cyn
>> >hynny yn adroddiadau'r Arolygwyr, wrth gwrs, a byddwn i o dro i dro yn
>> troi
>> >at yr 'awduron' i ofyn eu barn am dermau o'r fath. Mae hen fersiwn
>> deipiedig
>> >o'r Eirfa sy gen i ar wefan Cymdithas Cyfieithwyr Cymru yn dangos mai
>> >'bras-ddarllen' oedd fy nghynnig cyntaf am 'to scan', ond 'mod i wedi
>> >ysgrifennu 'llithr-ddarllen' ar ddiwedd y cofnod hwnnw ar o^l trafod gydag
>> >Illtyd Lewis, os cofia i'n iawn.
>> >
>> >Berwyn
>> >
>> >Berwyn
>> >
>> >
>> >
>> >
>> >2011/1/12 David Bullock <[log in to unmask]>
>> >
>> >> Cwestiwn sy gen i yn hytrach na gwrthwynebiad...
>> >>
>> >> Mae'r ffynhonnell y cyfeiriodd Meleri ati - sef y Cwricwlwm Cenedlaethol
>> -
>> >> yn un gymharol awdurdodol.
>> >>
>> >> Mae dogfennau'r cwricwlwm wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd gan
>> bobl
>> >> sydd wrthi'n gweithio'n gyson mewn ysgolion a byd addysg. Os wy'n
>> cofio'n
>> >> iawn, Yr Athro Gwyn Thomas gadeiriodd y pwyllgor gwreiddiol, ac mae
>> statws
>> >> dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (yn y Gymraeg fel pwnc, o leiaf) yn
>> >> weddol gadarn. Ac maen nhw'n ddogfennau sy'n cylchredeg yn eang ymhlith
>> >> cynulleidfa Gymraeg eitha cryf, sef athrawon Cymraeg.
>> >>
>> >> A'r cwestiwn felly yw hyn: oes yna reswm digon da i wrthod cynsail fel
>> hyn?
>> >>
>> >>
>> >> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwenda
>> >> Lloyd Wallace
>> >> Sent: 12 Ionawr 2011 16:22
>> >> To: [log in to unmask]
>> >> Subject: Re: ATB/RE: skim reading a scan reading
>> >>
>> >> >>Yn cytuno'n llwyr a chi Geraint. Ond gan fod cipddarllen (y Cwricwlwm
>> >> Cenedlaethol) a brasddarllen (Geiriadur yr Academi) ill dau yn golygu
>> skim
>> >> reading, a'r awgrym gan Carolyn (diolch!) o brysddarllen am scan reading
>> mor
>> >> debyg i brasddarllen, dw i am ddefnyddio cipddarllen am skim reading (dw
>> i
>> >> bron iawn a drysu yma ... ). I grynhoi, er fy mwyn fy hun yn gymaint a
>> phawb
>> >> arall!:
>> >> >
>> >> >skim reading = cipddarllen; scan reading = brysddarllen; detailed
>> reading
>> >> = darllen manwl
>> >> >
>> >> >Unrhyw wrthwynebiad?
>> >> >>
>> >> >>Gwenda
>> >> >>
>> >> >>Wed, 12 Jan 2011 15:45:04 -0000 , Geraint Lovgreen <
>> >> [log in to unmask]> wrote:
>> >> >>>hm - i mi mae cipddarllen (un gair, siawns) yn olreit ond dwi ddim yn
>> >> hoffi
>> >> >>>'llithrddarllen' nac yn meddwl ei fod yn debyg o ennill ei blwyf.
>> Mae'n
>> >> >>>anodd ei ddweud, yn un peth!
>> >> >>>
>> >> >>>Mae brasddarllen yn air llawer gwell.
>> >> >>>
>> >> >>>Mae darllen manwl yn iawn.
>> >> >>>
>> >> >>>Geraint
>> >> >>>
>> >> >>>----- Original Message -----
>> >> >>>From: "Meleri H. Hughes" <[log in to unmask]>
>> >> >>>To: <[log in to unmask]>
>> >> >>>Sent: Wednesday, January 12, 2011 3:21 PM
>> >> >>>Subject: ATB/RE: skim reading a scan reading
>> >> >>>
>> >> >>>
>> >> >>>> Dyma'r termau a ddefnyddir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i ysgolion:
>> >> >>>> Skim - cip ddarllen
>> >> >>>> Scan - llithr ddarllen
>> >> >>>> Detailed reading - darllen yn fanwl
>> >> >>>>
>> >> >>>> Meleri
>> >> >>>>
>> >> >>>>
>> >> >>>>
>> >> >>>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> >> >>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> >> vocabulary
>> >> >>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
>> >> Gwenda
>> >> >>>> Lloyd Wallace
>> >> >>>> Sent: 12 January 2011 15:15
>> >> >>>> To: [log in to unmask]
>> >> >>>> Subject: skim reading a scan reading
>> >> >>>>
>> >> >>>>>Dw i'n cyfieithu disgrifiadau ar ffyrdd gwahanol o ddarllen, sef
>> 'skim
>> >> >>>>>reading', 'scan reading' a 'detailed reading'. Mae Geiriadur yr
>> >> Academi yn
>> >> >>>>>rhoi 'brasddarllen' am skim reading, a 'darllen manwl' fyddwn i'n
>> ei
>> >> >>>>>ddefnyddio am detailed reading. A fyddai 'sganddarllen' yn iawn am
>> >> 'scan
>> >> >>>>>reading' neu a ddylwn i ddefnyddio 'bwrw golwg'?
>> >> >>>>>
>> >> >>>>>Diolch yn fawr.
>> >> >>>>>Gwenda
>> >> >>>>>--
>> >> >>>>>
>> >> >>>>>
>> >> >>>>>Gwenda Lloyd Wallace
>> >> >>>>>Cyfieithydd/Translator
>> >> >>>>>Troed-y-rhiw
>> >> >>>>>Cefn-llwyd
>> >> >>>>>Aberystwyth
>> >> >>>>>Ceredigion
>> >> >>>>>Cymru/Wales
>> >> >>>>>SY23 3HX
>> >> >>>>>
>> >> >>>>>Ffon/Tel: 01970 880817
>> >> >>>> --
>> >> >>>>
>> >> >>>>
>> >> >>>> Gwenda Lloyd Wallace
>> >> >>>> Cyfieithydd/Translator
>> >> >>>> Troed-y-rhiw
>> >> >>>> Cefn-llwyd
>> >> >>>> Aberystwyth
>> >> >>>> Ceredigion
>> >> >>>> Cymru/Wales
>> >> >>>> SY23 3HX
>> >> >>>>
>> >> >>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>> >> >>>>
>> >> >>>>
>> >> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >> >>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i
>> >> bwriedir ar
>> >> >>>> gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth
>> >> freintiedig. Os
>> >> >>>> yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei
>> >> ddosbarthu
>> >> >>>> na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu �'r anfonwr ar
>> >> unwaith.
>> >> >>>> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud � busnes swyddogol y corff sy'n
>> >> anfon
>> >> >>>> yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
>> >> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >> >>>> This email and any attachments are confidential and intended for
>> the
>> >> named
>> >> >>>> recipient only. The content may contain privileged information. If
>> it
>> >> has
>> >> >>>> reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the
>> >> >>>> content to anyone but should contact the sender at once.
>> >> >>>> Any content that is not pertinent to the official business of the
>> >> >>>> organisation is personal to the author.
>> >> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >> >>>> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni
>> bai
>> >> ei
>> >> >>>> bod yn hollol angenrheidiol.
>> >> >>>> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it
>> is
>> >> >>>> absolutely necessary.
>> >> >>>>
>> >> >>>>
>> >> >>
>> >> >>
>> >>
>> >> --
>> >>
>> >>
>> >> Gwenda Lloyd Wallace
>> >> Cyfieithydd/Translator
>> >> Troed-y-rhiw
>> >> Cefn-llwyd
>> >> Aberystwyth
>> >> Ceredigion
>> >> Cymru/Wales
>> >> SY23 3HX
>> >>
>> >> Ffon/Tel: 01970 880817
>> >>
>>
>>
>>
>> --
>>
>>
>> Gwenda Lloyd Wallace
>> Cyfieithydd/Translator
>> Troed-y-rhiw
>> Cefn-llwyd
>> Aberystwyth
>> Ceredigion
>> Cymru/Wales
>> SY23 3HX
>>
>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|