Efallai i mi wneud gosodiad braidd yn ysgubol yn dweud fod y gair "ynteu" yn perthyn i oes a fu. Maen amlwg wrth eich ymateb eich bod yn ei ystyried yn ymadrodd gwerthfawr o hyd, ac rwy'n derbyn ei fod yn fyw o hyd ar lafar wedi ei dalfyrru i te/ta.
Mae'n siwr ei fod yn dibynnu i ba gynulleidfa yr ydych yn ysgrifennu. Dydy o ddim yn ymadrodd y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith i fyfyrwyr mewn Coleg Addysg Bellach, a siarad yn gyffredinol.
Ond hoffwn wneud y pwynt nad yw rhoi'r gorau i rai ymadroddion nad sydd yn cael eu defnyddio yn gyffredin iawn mwyach yn gyfystyr รข defnyddio bratiaith (sylweddolaf wrth gwrs eich bod yn defnyddio gormodiaith i wneud eich pwynt!).
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
Sent: 13 January 2011 16:50
To: [log in to unmask]
Subject: Cywiro negeseuon
Anghytuno'n llwyr: mae "ynteu", yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn fyw ac yn ddefnyddiol. Hurt fyddai peidio ag arfer gair neu gystrawen oherwydd nad yw rhywrai'n eu defnyddio (am ba reswm bynnag). Pa saethau eraill hoffech chi eu bwrw allan o gawell y cyfieithydd? Waeth inni joinio'r majority ac iwsio Kymraeg really hawdd ei understandio, rhag pechu'r anwybodus!
|