Cymryd mai tynnu coes roedd Eurwyn, o ystyried y cyd-destun. Wrth gwrs, mae'n amhosib ysgrifennu neges ddigon gwallgof i bawb allu gweld mai jôc ydy hi. Gormod o bobl wallgof yn y byd.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 13 January 2011 15:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg Pen-blwydd
Eurwyn
Mae 'na'r fath beth â chyweiriau iaith. Mae Eleri yn ymwybodol o'r
cyweiriau hyn.
Siân
On 13 Ion 2011, at 15:32, Eurwyn Pierce Jones wrote:
> '... bobl SYDD DDIM yn ...' = idiom Saesneg!
> Yn y Gymraeg: '... bobl NAD YDYN nhw'n ...'
>
> Eurwyn
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri
> Lovgreen
> Sent: 13 January 2011 11:28
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Anrhag ben-blwydd
>
> Clywch, clywch!
>
> Dwinne'n gwbod am bobl sydd ddim yn cysylltu efo'r cylch am eu bod
> nhw ofn
> gwneud camgymeriad gramadegol.
>
> Ffon symudol: 07900061784
> ----- Original Message -----
> From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 13, 2011 11:20 AM
> Subject: Re: Anrhag ben-blwydd
>
>
> Yn bersonol, dwi ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol cywiro iaith
> pobl mewn
> fforwm gyhoeddus fel hyn - heblaw eich bod yn adnabod eich gilydd yn
> arbennig o dda wrth gwrs! Os ydy aelodau'r cylch yn mynnu cywiro ei
> gilydd,
> yna byddwch yn sensitif i deimladau pobl da chi! Mae na FFORDD o
> ddweud
> pethau, ac weithiau gall tôn ambell e-bost fod braidd yn anffodus
> ac yn
> feirniadol yn hytrach nag yn adeiladol. Helpu ein gilydd yw'r nod,
> does
> bosibl!
>
> Rhian
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
> Sent: 13 January 2011 11:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Anrhag ben-blwydd
>
> Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon
> fara ni,
>
> ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai
> yr ydym
> yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai'r
> sawl sy'n
>
> ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir,
> yr ydym
> fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg
> gwael,
> oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon
> yw'r ateb,
>
> ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle.
>
> Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod
> amdano", mae
> lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd
> pe gallwn
>
> innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl
> gohebydd
> arall ar y pwnc hwn.
|