Yn bersonol, anrheg ben-blwydd, ffrog briodas, Cymdeithas Bêl-droed,
Neuadd Ddawns a gardd gwrw sy'n dod yn naturiol i mi.
Mae gwahaniaeth rhwng Gorsaf Fysiau Caerfyrddin a Gorsaf Bysiau
Caerfyrddin
Ddoe ddiwetha, fe ddes i ar draws enghraifft lle'r oedd dwy swyddfa
yn yr un adran yn gwahaniaethu - un yn dweud "Adran Gynllunio" a'r
llall yn dweud "Adran Cynllunio". Rwy'n deall y rhesymeg dros y ddau
ond byddwn yn dewis y cyntaf yn reddfol.
On 13 Ion 2011, at 12:54, Jones,Sylvia Prys wrote:
> Carolyn wrote:
>> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi,
>> mae 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r
>> gwaith mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud. Ond bosib mai'r ffaith mai
>> enw yw pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n
>> barod i dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod
>> cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau
>> adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes
>> ateb syml.
>> Carolyn
>> ---------------------------------------------------------------------
>> ---
> Mae hynny'n berffaith wir, Carolyn. Does yna ddim cysondeb yn y
> sefydliad yma, rhwng pethau fel Swyddfa Gyllid / Swyddfa Cyllid,
> Credaf mai'r ail sy'n gywir (nes ati?) Ond yn bersonol dw i ddim yn
> teimlo bod llawer o ots. Mae pobl yn defnyddio'r glust i dreiglo,
> heb fynd ati i ddadansoddi ac felly fydd yna ddim cysondeb llwyr.
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
|