Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon fara ni, ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai’r sawl sy'n ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir, yr ydym fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg gwael, oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon yw'r ateb, ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle.
Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod amdano", mae lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd pe gallwn innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl gohebydd arall ar y pwnc hwn.
|