Ysgrifennodd Howard Huws:
> Pwy ohonom ni na chroesawai ei gywiro, os yw hynny'n gwella ein
Cymraeg\Saesneg ni? Crefftwyr ydym, a gorau inni hogi ein gramadeg, ein
cystrawenau, ein troeon ymadrodd, a gweddill ein hoffer ni.
Wel, iawn - ond pam ddylai hynny gynnwys cywiro iaith lafar? Mae fy
Nghymraeg innau'n wallus ar lafar, llawer o dreigladau nad ydynt yn
bodoli yn ysgrifenedig ("ga'i un o dy jips?"), a fyddai dim amser i
gyfieithu gair pe tasai rhywun yn cywiro pob gwall. Ydy hi'n ddadleuol
awgrymu bod rhai camgymeriadau yn dderbyniol ar lafar ac mewn negeseuon
anffurfiol?
> Mae cryn angen cywiro fy Nghymraeg innau: ond y diwrnod y gwrthodaf
feirniadaeth deg yw'r diwrnod y dylwn roi'r gorau i gyfieithu.
Do'n i ddim yn gwrthod dim - jyst awgrymu (am fy mod yn gwybod bod hyn
yn wir am rai) bod cywiro iaith lafar ar y cylch yn gwneud i aelodau
newydd ofni postio o gwbwl.
> A pharthed "ynteu": 'rydym yn ei ddefnyddio, ar lafar ac yn
ysgrifenedig (gan gynnwys yr e-bost) yn feunyddiol, os yn anymwybodol.
Ddim yn y de, dydyn ni ddim!
("Anymwybodol" ...?)
|