On Jan 27, 2011, Claire Richards wrote:
> Diffiniadau:
>
> A mobile phone offering advanced functions which may normally only be
> found on a PC. These often have email and internet capabilities as well
> as a built-in keyboard.
O'n i'n siwr fod hyn wedi ei drafod o'r blaen ond falle mewn fforwm
arall oedd e.
Yn fy marn i mae 'clyfar' yn well na 'deallus' yn y cyd-destun hwn.
Mae gan 'deallus' a 'deallusrwydd' ddefnydd penodol yn y maes
cyfrifiadurol. Dyw cyfrifiaduron cyffredin ddim yn ddeallus - mae
nhw'n dilyn algorithmau reit bendant.
Mae datblygu meddalwedd 'deallus' yn faes arall ond nid dyna sydd yn
arbennig am smartphones. Ffonau sydd yn gallu gwneud pethau clyfar
ydyn nhw (tebycach i gyfrifiadur ar ddesg) nid ffonau sydd yn eich
deall a'ch dadansoddi. Mae nhw dal yn dibynnu ar fewnbwn a orchmynion
gan bobl.
|