O broblem ydi eu bod yn 'datblygu' mwy yn y cyfnod pan maen nhw mewn
cocwn, er eu bod yn gwbl lonydd y pryd hynny.
Huw Tegid wrote:
> Bioleg oedd fy mhwnc gwannaf yn yr ysgol yn bendant, felly fyddwn i ddim dicach os dywedwch chi fod 'datblygu' yn gamarweiniol neu'n rhy benagored, ond tybed a fyddai dweud eu bod nhw'n datblygu yn un ffordd o gyfleu'r 'active', hyd yn oed os ydyn nhw'n cysgu neu'n ddigon disymud yn ystod y cyfnod hwn?
>
> Cofion gorau,
>
> Huw
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 27 Ionawr 2011 11:58
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: active larvae
>
> Diolch Geraint
> Na - maen nhw'n mynd i aeafgysgu wedyn.
> Beth am "bywiog"? - er dw i ddim yn gwybod pa mor fywiog ydyn nhw,
> chwaith
> Wnes i feddwl am "effro" hefyd ond mae'n siwr eu bod nhw'n cysgu
> weithiau
>
> Diolch
>
> Siân
> On 27 Ion 2011, at 11:51, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> byw?
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, January 26, 2011 10:25 PM
>> Subject: active larvae
>>
>>
>> Beth yw'r gair am "active" wrth sôn am larfâu gloynnod byw?
>>
>> Fe wnes i holi'r cwsmer beth oedd "active": "Active in this
>> context means the larva were present and doing whatever Marsh
>> Fritillary butterfly larva â?~doâ?T (i.e. eat a lot and hang around
>> in large groups".
>>
>> Alla i ddim meddwl am yr union air.
>>
>> Diolch eto
>>
>> Siân
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|