Hunan-niweidio sydd wedi cael ei ddefnyddio ym maes iechyd ers rhai
blynyddoedd bellach,a dyma sydd ar Term Cymru (er yn statws 4). Mae 'anafu'
yn fwy tueddol o gael ei ddefnyddio am 'injury'. Ond dwi'n gallu gweld pam y
byddai 'anafu' falle'n agosach ati o ran y weithred - ac yn wir falle y
byddai 'injure' yn gywirach yn y Saesnseg hefyd!
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 28 January 2011 10:29
To: [log in to unmask]
Subject: self-harm
Oes term cydnabyddedig os gwelwch yn dda?
Mae 88 enghraifft o hunan-niweidio ar Wgl a 15 enghraifft o hunan-anafu.
Mae'n well gen i'r olaf ond mae'n ymddangos mai'r cyntaf sy'n cael ei
ddefnyddio amlaf.
Diolch yn fawr.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|